Bydd y weledigaeth i gynyddu addysg ddwyieithog yn Sir Gaerfyrddin yn daith raddol dros ddeng mlynedd, yn ôl y Cyngor Sir.
Fe wnaeth y Cabinet gyfarfod ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 4) i drafod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan bwysleisio ei bod hi’n bwysig rhoi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Ond pwysleisiodd yr aelodau y bydd teuluoedd yn dal i gael dewis o ran yr iaith y bydd eu plant yn cael eu haddysgu ynddi dros y degawd nesaf, ac ar ôl 2032.
Mae’r cynllun yn dangos sut y bydd y cyngor yn datblygu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion yn seiliedig ar y canlyniadau a’r targedau sydd wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i bob cyngor ledled Cymru gyflwyno cynlluniau addysg Gymraeg deng mlynedd i Lywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd ei tharged o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda’r nod o addysgu rhagor o blant dosbarth meithrin a dosbarth derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg, cael mwy o bobol ifanc yn astudio ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, cynyddu darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg – gyda chymorth parhaus i ddatblygu staff drwy raglen hyfforddi gynhwysfawr a hyblyg.
Dywed y Cabinet ei bod hi’n bwysig i’r Cyngor ddarparu mwy o gyfleoedd i fod yn ddwyieithog, gan gyfeirio at y manteision amrywiol a ddaw yn ei sgil – o gyrhaeddiad addysgol i gyflogadwyedd ac iechyd.
Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y nod yw cyrraedd a rhagori ar darged Llywodraeth Cymru ar ganran y disgyblion o Sir Gaerfyrddin sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032 (10-14%).
Roedd yn cynnwys newid y ddarpariaeth iaith mewn deg ysgol dros y degawd nesaf, gan greu cyfle i 300 o ddysgwyr eraill gael eu haddysgu yn y Gymraeg.
‘Uchelgais yn glir’
“Rydym am adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn narpariaeth addysg y blynyddoedd cynnar, ac mae fy uchelgais yn glir – cyfle cyfartal ar draws y sir,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies.
“Mae’n werth nodi bod gennym ni y ganran fwyaf o o blant oed meithrin sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sef 57.5%.
“Mae addysg drochi yn allweddol i’r strategaeth, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i weld cynnydd yng nghanran y plant sy’n trosglwyddo o’r grwpiau Meithrin i addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen.
“Mae’r blynyddoedd cynnar hyn mor bwysig, mae’r plant fel sbyngiau, yn amsugno gwybodaeth ac yn amsugno iaith newydd.
“Mae’n rhaid i ni wedyn barhau i weld cynnydd yn y niferoedd yn ein dosbarthiadau derbyn, rydym yn dweud hyn er mai ni yw’r awdurdod sydd â’r ganran fwyaf (62.5%) o blant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’n rhaid i blant barhau i wella eu Cymraeg wrth fynd o un cyfnod ysgol i’r llall, ac mae angen i ni sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddilyn ei addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ar yr un pryd, mae angen i ni roi hyder i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg, yn yr ysgol ac yn y gymuned. Dyna beth rydyn ni eisiau ei weld, mwy a mwy yn defnyddio’r Gymraeg, yn clywed y Gymraeg ar y stryd. Mae angen i ni ddatblygu ac adeiladu ar sgiliau a hyder.”
Y blynyddoedd cynnar – “dyna pryd mae angen i ni ddechrau”
“Rwy’n hynod falch o weld y ddogfen hon ac mae pleser gennyf ei chefnogi,” meddai’r Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio.
“Gan weithio gyda phlant ifanc, hynny yw plant o dan dair oed, gallaf ddweud bod plant yn dysgu iaith yn gyflym iawn, maent yn ei hamsugno, ac mae’r broses yn wahanol iawn i ddysgu iaith fel oedolyn.
“Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn mae’r broses yn yr ymennydd yn hollol wahanol.
“Rwy’n falch o weld bod pwyslais ar y blynyddoedd cynnar, dyna pryd mae angen i ni ddechrau.”
Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, “mae’n bwysig iawn nodi bod llawer o fanteision i ddysgu iaith”.
“Yn amlwg ar gyfer gyrfaoedd, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol lle mae’n rhaid i gleifion a chleientiaid gael dewis iaith, mae’n bwysig yn enwedig i bobl hŷn, a phlant ifanc, a phobl â dementia,” meddai.
“Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud ei fod yn awyddus i’w holl staff siarad lefel benodol o Gymraeg, felly mae gennym ddyletswydd yma i gefnogi hynny.
“Mae manteision bod yn ddwyieithog yn lluosog, yn gymdeithasol ac ym myd gwaith, ac mae’r strategaeth hon i’w chroesawu’n fawr.”
Mae’r Cynllun wedi dod yn ôl i’r Cabinet i’w drafod yn dilyn adborth gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf i gynnwys rhywfaint o ddata a manylion ychwanegol.
Bydd nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo’n derfynol.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal y llynedd.