Bydd pecyn newydd o fesurau i fynd i’r afael ag ail gartrefi yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 4).
Fe fydd y mesurau, a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price, yn cynnwys newidiadau cynllunio a threth, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer trefn drwyddedu newydd ar gyfer llety gwyliau.
Mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd, bydd y ddau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod pawb yn gallu fforddio byw yn y eu cymunedau lleol.
Mae’r cynllun cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru’n cynnwys ymrwymiad i leihau effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Nghymru.
“Mae’r gweithredu’n cynnwys cynlluniau i gapio nifer ail gartrefi a thai gwyliau; mesurau i ddod â mwy o dai dan berchnogaeth gyffredin; rhaglen drwyddedu statudol ar gyfer tai gwyliau; rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol godi premiymau treth cyngor a chodi trethi ail gartrefi,” meddai’r cytundeb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eisoes eu bod nhw’n bwriadu parhau â chynlluniau i godi trethi uwch ar wyliau llety nad ydyn nhw yn rhentu eu heiddo am fwy na hanner y flwyddyn.
Ynghyd â hynny, bydd rhaid i lety hunanarlwyo gael ei rentu am 182 diwrnod y flwyddyn, yn hytrach nag am 70 diwrnod, er mwyn bod yn gymwys i dalu cyfraddau busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.
Fodd bynnag, mae cyrff twristiaeth a lletygarwch, a’r Ceidwadawyr Cymreig wedi gwrthwynebu’r cynlluniau hynny.
‘Rhaglen radical’
“Heddiw, rydyn ni’n nodi’r camau nesaf mewn rhaglen radical i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fforddio byw yn eu cymuned leol – boed hynny drwy brynu neu rentu cartref,” meddai Mark Drakeford.
“Mae gennym ni uchelgais a rennir i Gymru fod yn genedl o gymunedau ffyniannus – gwlad lle nad oes raid i bobol adael i ddod o hyd i waith da sy’n rhoi boddhad a gwlad y mae pobol eisiau dod i ymweld â hi ac i fyw ynddi.
“Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ni ond nid yw cael gormod o dai haf ac ail gartrefi, sy’n wag am ran helaeth o’r flwyddyn, yn creu cymunedau lleol iach ac maent yn prisio pobol allan o’r farchnad dai leol.
“Nid oes un ateb syml i’r problemau hyn. Rhaid i unrhyw gamau rydyn ni’n eu cymryd fod yn deg.
“Nid ydym eisiau creu unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a allai ansefydlogi’r farchnad dai ehangach neu ei gwneud yn anos i bobol rentu neu brynu.”
Yn ôl Adam Price, mae Llafur a Phlaid Cymru “wedi ymrwymo i ddefnyddio ystod o ysgogiadau cynllunio, trethiant ac eiddo i fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi a chartrefi anfforddiadwy – ac i wneud hynny ar fyrder”.
“Bydd y pecyn o fesurau pwrpasol sydd wedi’u datblygu o ganlyniad i’r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn y maes hwn, gyda’i gilydd, yn dechrau mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn ein system dai ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobol a chymunedau ar draws ein cenedl,” meddai.
“Y nod yw rhoi’r ‘hawl i fyw adra’ i bawb, a’r gallu i fyw a gweithio yn y cymunedau maent wedi cael eu magu ynddynt.”
‘Cosbi pobol sy’n gweithio’n galed’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynlluniau i gyflwyno system drwyddedu ar gyfer llety gwyliau, gan ddweud y byddai rhaglen o’r fath yn “ddrud” a “biwrocrataidd”.
Yn ôl Tom Giffard, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, mae nifer o bobol yn y sector dwristiaeth yn credu y byddai’r system yn rhagflaenu Treth Dwristiaeth.
Mae nifer o wledydd Ewrop yn codi Treth Dwristiaeth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n cynnal ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno un yn yr hydref.
“I fi, mae hwn yn edrych fel rhagflaenydd i Dreth Dwristiaeth, rhywbeth fydd yn dinistrio’r sector twristiaeth yng Nghymru ac yn cael gwared ar nifer uchel iawn o swyddi,” meddai Tom Giffard.
“Rhaid i weinidogion sicrhau nad yw’r rhaglen hon yn cosbi pobol sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod ein busnesau twristiaeth yn ffynnu, yn enwedig ar ôl y niwed wnaeth cyfyngiadau’r pandemig.
“Dylai Llafur a Phlaid Cymru gyhoeddi hyn yn y Senedd a dangos rhywfaint o barch i bobol Cymru, yn hytrach na rhedeg yn syth at y wasg.
“Mae tu hwnt i grediniaeth eu bod nhw eisiau mwy o wleidyddion yn y Senedd ond nad ydyn nhw’n trafferthu siarad yno.”