Mae cyrff twristiaeth a lletygarwch wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gael osgoi talu mwy o dreth sy’n cael ei gyflwyno i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
Bydd tair cymdeithas fasnach sy’n cynrychioli busnesau hunanarlwyo yng Nghymru yn cwrdd ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn trafod newidiadau treth sydd i’w cyflwyno fis Ebrill nesaf.
Ar hyn o bryd, rhaid i eiddo hunanarlwyo yng Nghymru fod ar gael am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, a’i osod am o leiaf 70 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.
O dan y cynigion newydd, rhaid i eiddo fod ar gael am o leiaf 252 diwrnod a’i osod am o leiaf 182 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes – cynnydd o 160%.
O fis Ebrill 2023, byddai busnes hunanarlwyo nad yw’n bodloni’r trothwy newydd yn talu treth y cyngor, yn hytrach nag ardrethi busnes.
Bydd gan gynghorau sir Cymru’r gallu i gynyddu’r dreth gyngor hyd at 300%.
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Broffesiynol Hunanarlwyo’r Deyrnas Unedig a Lletygarwch y Deyrnas Unedig Cymru wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau treth orfodi cymaint â 30% o fusnesau hunanarlwyo i gau neu werthu.
Maent yn gobeithio cwrdd â Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ddechrau’r mis nesaf.
Eu nod yw “diogelu busnesau hunanarlwyo go iawn yng Nghymru” gan fod Llywodraeth Cymru yn cynnig rheolau llymach ar lety sy’n gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.
Mae’r cymdeithasau’n gofyn am gyfnod pontio o ddwy neu dair blynedd i gyflwyno’r newidiadau, hyd at 18 eithriad a goddefebau i fusnesau sy’n gwneud gwaith atgyweirio ac adnewyddu, gwella eiddo neu gael eu gorfodi i gau oherwydd diffyg iechyd neu gyfrifoldebau gofalu.
Maent hefyd am i fusnesau hunanarlwyo gael proses apelio yn erbyn y trothwy 182 diwrnod mewn amgylchiadau eithriadol.
“Nid perchnogion ail gartrefi yw’r rhain”
“Nid yw’r dull hwn yn ystyried y gwahanol fathau o fusnesau sy’n gweithredu mewn blwyddyn dwristiaeth dymhorol yng Nghymru,” meddai’r cymdeithasau mewn datganiad.
“Nid yw ychwaith yn ymateb i’r ffaith nad yw’r broblem y mae hyn yn cynnig ei datrys yn effeithio ar Gymru gyfan, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru, ei hun, wedi’i gydnabod.
“Mae ein data’n dangos y bydd mwy na 30% o fusnesau hunanarlwyo proffesiynol, lleol yn wynebu gorfod gwerthu neu gau oherwydd y ddeddfwriaeth hon.
“Nid perchnogion ail gartrefi yw’r rhain.
“Rydym nawr yn gofyn i Lywodraeth Cymru eistedd i lawr yn ffurfiol gyda ni i adolygu a chytuno ar yr eithriadau a’r mesurau lliniaru hanfodol a chyfiawn, er mwyn sicrhau nad yw busnesau go iawn yn cael eu dal yng nghanlyniadau’r trothwy newydd hwn.”