Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am “flaenoriaethu” diwygio’r flwyddyn ysgol ar draul materion eraill sydd angen sylw, yn ol y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae adroddiad wedi cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mehefin 30) sy’n amlinellu tri phosibilrwydd o sut i ddiwygio’r flwyddyn ysgol wrth gwtogi’r gwyliau haf.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth Cymru yn “dangos dirmyg llwyr tuag at effaith ehangach penderfyniadau o’r fath”.
Mae gweinidog addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi diystyru cwtogi’r gwyliau i bythefnos neu dair wythnos neu gael llai o wyliau.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod cyfranogwyr yn weddol fodlon ar y flwyddyn ysgol bresennol ond maen nhw’n agored i ystyried newid.
Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y posiblrwydd o gwtogi gwyliau’r haf ddechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf, ac mae’n debygol o gyflwyno opsiynau gwahanol ar gyfer newid patrwm tymhorau ysgol.
“Model amgen”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: “Mae’n amlwg o’r adroddiad hwn, o’i drafod yn fanwl, fod parodrwydd i edrych ar ffyrdd amgen o strwythuro’r flwyddyn ysgol, yn enwedig o ran sut yr ydym yn cefnogi dysgwyr yn well dros yr haf ac yn sicrhau mwy o gysondeb o ran hyd dymhorau – yn benodol tymor hir yr hydref sydd gennym ar hyn o bryd – i gyd-fynd yn well â phatrymau gwaith a theuluol modern, a mynd i’r afael ag anfantais a’r bwlch cyrhaeddiad.
“Rydw i hefyd yn cydnabod, er bod cryn fodlonrwydd â’r flwyddyn ysgol bresennol ar hyn o bryd, ar ôl trafod a dangos modelau blwyddyn ysgol wahanol posibl, roedd y rhan fwyaf o’r gweithlu addysg a thua hanner y dysgwyr wedi dewis model amgen,” meddai.
Y cynigion
Er gwaethaf y bodlonrwydd gyda’r sefyllfa fel y mae, roedd mwyafrif y cyfranogwyr o blaid gwneud y tymhorau o hyd cyfartal a chwtogi gwyliau ysgol yr haf.
Roedd yr adroddiad gan Ymchwil Beaufort yn cynnwys tri chynnig:
- Gwyliau haf o bum wythnos gyda thri thymor ysgol o tua 13 wythnos, gydag egwyl o wythnos hanner ffordd a thair wythnos dros y Nadolig.
- Gwyliau haf o bedair wythnos gyda phum tymor ysgol o tua saith neu wyth wythnos. Tair wythnos o wyliau dros y Nadolig a phythefnos rhwng y tymhorau eraill.
- Gwyliau haf o dair wythnos gyda thymhorau’n para tua chwech neu saith wythnos gyda seibiannau bob pythefnos rhyngddynt.
Y Ceidwadwyr yn beirniadu
Dywed Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig: “Ni allaf wir gredu, ar adeg pan nad yw plant yn cael y cymorth addysgol sydd ei angen arnynt ar ôl cymaint o aflonyddwch, yn ogystal â’n pobol ifanc yn methu â chael y cymorth iechyd meddwl a llesiant sydd ei angen arnynt yn yr ysgol, neu hyd yn oed i’w gael yn ôl i’r ysgol, mae’r Llywodraeth Lafur yn dewis blaenoriaethu hyn. Mae’n rhyfeddol.
“Mae’r Llywodraeth Lafur hefyd yn dangos dirmyg llwyr tuag at effaith ehangach penderfyniadau o’r fath, fel yr effaith andwyol y gallai gwyliau haf byrrach ei chael ar ein diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru.”