Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynllun gweithredu i fynd i’r afael â chlefyd siwgr.

Daw hyn wrth iddyn nhw fynegi pryder am y cynnydd cyflym yn nifer y bobl sydd â diabetes dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gyda dros 209,015 o bobol yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr erbyn hyn.

Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae wyth y cant o oedolion yng Nghymru yn dioddef o’r cyflwr, ac erbyn 2030 mae nifer yr oedolion sydd â chlefyd siwgr yng Nghymru yn debygol o dyfu ymhellach i 11 y cant.

Cafodd y mater ei drafod yn y Senedd yng Nghaerdydd ddoe (dydd Mercher, 29 Mehefin).

Dywedodd Russell George AS, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae clefyd siwgr yn fom sy’n tician ac nid wyf yn meddwl ein bod wedi siarad digon amdano yn y Siambr hon.

“Mae gan Gymru hefyd y nifer uchaf o achosion o ddiabetes o unrhyw un o wledydd y DU.

“A dylwn ddweud, oni bai ein bod yn mynd i’r afael â chlefyd siwgr, gall arwain at gyflyrau difrifol y gellir eu hatal.

“Byddai cael cynllun ar gyfer clefyd siwgr nid yn unig yn dda i iechyd pobl ledled Cymru, ond byddai cael y cynllun hefyd yn helpu i dynnu pwysau oddi ar staff a gweithlu ein GIG [Gwasanaeth Iechyd],” meddai.

‘Straen enfawr ar y GIG’ yng Nghymru

“Y mater arall yw bod trywydd cynyddol y rhai sy’n dioddef o glefyd siwgr yng Nghymru yn rhoi straen enfawr ar y GIG.

“Mae’n straen enfawr ar y GIG ar hyn o bryd: mae clefyd siwgr eisoes yn costio tua £500 miliwn y flwyddyn – dyna 10 y cant o’r gyllideb flynyddol, ac mae tua 80 y cant o hynny’n cael ei wario ar reoli cymhlethdodau, a gellir atal y rhan fwyaf ohonyn nhw.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: “O ran y gost i’r GIG, mae’n ffigur rydyn ni wedi sôn amdano fo ers blynyddoedd mewn difrif, fod cymaint â 10 y cant o holl gyllideb y GIG yn mynd ar ddelio efo a chefnogi pobl sydd â chlefyd siwgr a chynnig triniaeth, yn cynnwys triniaeth i gymhlethdodau difrifol tu hwnt.

“Felly, o ran y gost bersonol – human cost, felly – a’r gost ariannol, mae yna ddigonedd o gymhelliad i godi gêr o ran polisi sy’n ymwneud â diabetes.

“Mae’n rhaid gwneud y newid yna o wario’n ddrud ar drin pobl achos ein bod ni wedi methu eu trin nhw mewn pryd tuag at wario llai o arian drwy atal y problemau yn y lle cyntaf, a dyma ni enghraifft wych,” meddai.

Cynllun Llywodraeth Cymru’n ‘hen ffasiwn’ bellach

Dywedodd Russell George ei fod yn destun pryder iddo fod tua 65,000 o bobol yng Nghymru yn byw gyda chlefyd siwgr math 2 heb gael diagnosis.

“Wrth gwrs, os nad ydan ni’n ymdrin â hynny, nid yn unig y mae’n ddrwg i’w hiechyd, ond mae’n rhoi pwysau pellach ar wasanaethau iechyd hefyd.

“Felly, yr hyn a’m perswadiodd mewn gwirionedd fod angen inni drafod diabetes yw pan feddyliais i, ‘Wel, beth yw cynllun Llywodraeth Cymru?’

“Felly, gwnes rywfaint o waith ymchwil, gallwn weld rhywfaint o ymchwil gan Diabetes UK, ac mae’n ymddangos i mi nad oes gan y Llywodraeth gynllun ar gyfer diabetes ar hyn o bryd.

“Efallai fy mod yn anghywir. Rwy’n edrych i weld a fydd y Gweinidog yn dweud wrthyf, ‘Oes, mae cynllun’, ond o’m hymchwil, yr unig gynllun y gallwn ddod o hyd iddo, neu’r cynllun diweddaraf y gallwn ddod o hyd iddo, oedd cynllun 2016-20 – dyna oedd y cynllun diweddaraf yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno, ac nid oes unrhyw gynllun arall ar hyn o bryd, ac mae’r cynllun hwnnw, wrth gwrs, bellach yn hynod o hen ffasiwn hefyd,” meddai.