Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na chafodd unrhyw ddewis ynghylch cyfrannu arian i dalu am gymorth milwrol ychwanegol i Wcráin.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi cyhoeddi y bydd y Deyrnas Unedig yn darparu £1 biliwn o gymorth milwrol ychwanegol i Wcráin.

Daw £95m o’r arian hwnnw o gyllidebau Llywodraethau Cymru a’r Alban er nad yw penderfyniadau ar bolisi amddiffyn a gwariant wedi’u datganoli.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi derbyn hyn “oherwydd ein hymrwymiad parhaus i gefnogi pobol Wcráin” ond mae’n pwysleisio “nad yw’n iawn defnyddio arian a ddylai fod ar gyfer buddsoddi mewn meysydd datganoledig, fel iechyd ac addysg, i ariannu maes gwariant sydd heb ei ddatganoli – cymorth milwrol ac amddiffyn.”

Bydd y £1bn yn talu am “systemau amddiffyn soffistigedig, cerbydau awyr, offer electronig newydd ac offer hanfodol i filwyr Wcráin.”

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, daw’r cyfanswm o £1 biliwn o danwariant ym mhob un o’i hadrannau tra bod “£95 miliwn yn dod o gyfraniadau o gyllidebau Llywodraeth Cymru a’r Alban – gan gydnabod pwysigrwydd ymateb i ymddygiad ymosodol Rwsia.”

Fodd bynnag, buodd yna ddim ymgynghori blaenorol gyda’r llywodraethau datganoledig ynglŷn â’r cyfraniadau hyn.

“Cefnogi Wcráin”

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â herio’r penderfyniad am ei bod am weld cefnogaeth filwrol i’r Wcráin yn parhau.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Wcráin a’i phobol wrth i’r rhyfel barhau,” meddai Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans.

“Yn wir, fe ddylai’r Deyrnas Unedig barhau i ddarparu cymorth milwrol i Wcráin a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth dyngarol i bobol o Wcráin sy’n cyrraedd Cymru bob dydd yn ceisio diogelwch a noddfa rhag erchyllterau’r rhyfel hwn.

“Fodd bynnag, nid yw’n iawn defnyddio arian a ddylai fod ar gyfer buddsoddi mewn meysydd datganoledig, fel iechyd ac addysg, i ariannu maes gwariant sydd heb ei ddatganoli – cymorth milwrol ac amddiffyn.

“Rydym wedi derbyn y canlyniad hwn oherwydd ein hymrwymiad parhaus i gefnogi pobol Wcráin ac i osgoi ansicrwydd cyllidebol ond, yn y dyfodol, dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig dalu am gyllid ar gyfer yr adrannau hyn.”