Mae gwraig sydd wedi cael gwybod na fydd ei gŵr yn cael dod adre o’r ysbyty oherwydd diffyg gofalwyr wedi dweud bod y sefyllfa yn “dorcalonnus”.
Mae Hywel Edwards o bentref Dinmael ger Corwen wedi bod yn yr ysbyty ers mis Mawrth, ac roedd disgwyl iddo ddod adre nes i weithwyr cymdeithasol roi gwybod i’w wraig, Enid Edwards, nad oes ganddyn nhw ddigon o ofalwyr yng Nghyngor Conwy i ofalu amdano.
Awgrymodd y gweithwyr cymdeithasol y byddai’n rhaid i’w gŵr fynd i gartref gofal, cynnig y mae Enid Edwards wedi’i wrthod.
Mae sefyllfa’r teulu yn un gyfarwydd i nifer yn sgil “argyfwng gweithlu” yn y sector gofal cymdeithasol, ac mae Enid Edwards wedi bod wrthi’n trio chwilio am ofalwr eu hunain dros y dyddiau diwethaf.
“Y sefyllfa ydy bod y gŵr wedi syrthio yma ddiwedd Mawrth ac wedi bod yn yr ysbyty byth ers hynny, wedi bod yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam am fis ac wedyn symud i Lannau Dyfrdwy. Yno mae o wedi bod ers mis Ebrill,” meddai Enid Edwards wrth golwg360.
“Roedd o fod i gael dod adre, mae’r offer yma i gyd ar ei gyfer o iddo gael dod adre ac wedyn dyma’r gweithiwr cymdeithasol yn fy ffonio i ddweud na cha’i o ddim dod gan nad oes yna ddigon o ofalwyr.
“Roeddwn i wedi prynu stairlift iddo fo ddod adre, ac mae gweddill yr offer wedi dod gan y therapydd galwedigaethol.
“Roedden nhw wedi awgrymu ei fod o’n mynd i gartref gofal i gael mwy o sylw, nes eu bod nhw wedi ffeindio mwy o ofalwyr, am wn i. Dw i ddim yn siŵr iawn be ydy’r sefyllfa wedyn.
“Fe wnes i wrthod yn bendant ar hyn o bryd.
“Os ydyn nhw’n dweud ei fod o’n ddigon da i ddod adre, dw i’n teimlo mai adre ydy’i le fo ac nad fi oedd fod i wneud y penderfyniad drosto fo beth bynnag.”
Mae Enid wedi bod yn apelio am ofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ond hyd yn hyn dydy hi heb gael dim lwc.
“Dw i wedi bod wrthi’n ffonio hwn llall ac arall i drio dod o hyd i ofalwyr, ac mae hi’n andros o anodd.”
‘Torcalonnus’
Yn ddiweddar, fe wnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru rybuddio bod oedi cyn symud cleifion o ysbytai yn arwain at “fethiannau eang” ar draws y gwasanaeth iechyd a gofal.
Dywedodd adroddiad gan y pwyllgor, bod yr argyfwng gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol yn golygu bod cleifion yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau hirach nag sydd angen, gan greu ôl-groniad yn y system.
Yn ei dro, mae hynny’n arwain at broblemau yn y gwasanaeth ambiwlans, gan nad ydy hi’n bosib iddyn nhw drosglwyddo cleifion i wardiau.
Dywed Russell George, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod yr ôl-groniad yn golygu bod miloedd o berthnasau a gofalwyr di-dâl yn gorfod dewis rhwng gadael rhywun yn yr ysbyty ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu – rhywbeth sydd ddim yn bosib i Enid a’i theulu ei wneud.
“Mae hi’n andros o rwystredig achos roeddwn i wedi heipio fy hun fyny’n meddwl bod o am ddod adre, wedyn y galwad ffôn yn dweud ‘Na fedrith o ddim dod’. Mae’n dorcalonnus â dweud y gwir,” ychwanega Enid Edwards.
“Dw i heb sôn wrtho fo, mae gen i ofn torri ei galon o achos mae o’n edrych ymlaen gymaint at gael dod adre. Mae o’n dweud o hyd, ‘Ga i wylio be dw i eisiau ar y teledu, ga i gysgu yn fy ngwely fy hun, a fydd yna neb yn gweiddi ganol nos nag yn ystod y prynhawn’. Mae o jyst eisiau dod adref.
“Mae yna gymaint o bobol eraill yn yr un sefyllfa, neu wedi bod yn yr un sefyllfa, dw i’n teimlo ei fod o’n ddyletswydd arna i dynnu sylw.”
Mae gwleidyddion wedi rhybuddio ei bod hi’n “gynyddol anodd” denu pobol i weithio ym maes gofal cymdeithasol, a hyd nes y bydd y gweithlu’n cael ei drin yn gyfartal â’r gweithlu gofal iechyd, bydd y broblem yn parhau.
‘Trafferth recriwtio’
Wrth ymateb, dywedodd gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Conwy, bod y sefyllfa’r peri pryder i bawb sy’n gweithio yn y sector gofal.
“Yn yr un modd ag awdurdodau eraill ar draws Cymru, rydym yn profi cynnydd yn y galw am wasanaethau gofal, ochr yn ochr â phroblemau gyda recriwtio a chadw staff ar gyfer y sector nyrsio gofal yn y cartref a phreswyl,” meddai’r gwasanaeth.
“Mae’r sefyllfa yn peri pryder mawr i bawb sy’n gweithio yn y sector.
“Ar hyn o bryd mae asiantaethau’r sector preifat a gwasanaethau mewnol yn hysbysebu swyddi gwag, ac er i ni gynnal ymgyrchoedd recriwtio, rydym ni a’r sector annibynnol yn cael trafferth recriwtio a chadw staff, ac mae’r broblem wedi gwaethygu’n ddiweddar o ganlyniad i’r costau tanwydd uchel (ac sy’n dal i godi).
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr ar draws y sector i godi proffil gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol ac annog pobl i wneud cais am swyddi gwag.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Conwy am ymateb.