Mae “lle i wella” wrth ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Powys, meddai aelod cabinet.
Mewn cyfarfod o’r cabinet ddydd Mawrth (Mehefin 28) cytunodd cynghorwyr i gymeradwyo adroddiad drafft blynyddol Safonau Cymru.
Edrychodd yr adroddiad ar y gwaith a wnaed o Ebrill 1 2021, hyd at ddiwedd Mawrth 2022, i gryfhau’r Gymraeg ym Mhowys a normaleiddio ei defnydd o ddydd i ddydd.
Bydd yn rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar wefan y cyngor erbyn diwedd mis Mehefin ac mae’n cynnwys naw argymhelliad gan Gomisiynydd y Gymraeg fel y gall y cyngor gryfhau ei brosesau a chydymffurfio â’r safonau.
Galwadau ffôn
Roedd gwaith y comisiynydd yn cynnwys ffonio’r cyngor yn Gymraeg i ddarganfod pa fath o wasanaeth mae pobl Cymraeg eu hiaith yn ei dderbyn gan y cyngor pan maen nhw’n ffonio.
Dim ond yn y drydedd alwad ffôn y cafodd y comisiynydd ei gyfarch yn Gymraeg ac o fewn yr amserlen briodol.
O ganlyniad, roedd Cyngor Powys wedi penderfynu cynnal eu hymarfer eu hunain ac wedi canfod problemau tebyg.
Dywed y cyngor y byddan nhw’n: “Cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i staff lle bo angen a chryfhau ein gweithdrefnau ar gyfer ateb a thrin galwadau yn Gymraeg.”
Mae ail fater a godwyd gan y comisiynydd wedi gweld newid llofnod e-bost yn cael ei gyflwyno ar draws y cyngor.
Bellach mae gan staff y Cyngor lofnod sy’n cynnwys y datganiad: “Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg.
“Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi.”
Canfu’r comisiynydd fod staff Powys wedi datgan eu bod yn “croesawu” gohebiaeth yn Gymraeg ond heb ddweud y bydden nhw’n: “ateb yn Gymraeg, heb oedi” fel sy’n ofynnol.
“Lle i wella”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros genedlaethau’r dyfodol sy’n cynnwys cyfrifoldeb am y Gymraeg, y Cynghorydd Sandra Davies: “Mae lle i wella ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol o hynny.
“Mae’n dda bod yr ymarfer wedi nodi rhai o’r problemau a nawr ein bod yn ymwybodol o’r rhain gallwn geisio eu gwella.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Pete Roberts: “Mae hyn i’w groesawu yn gyffredinol.”
Ychwanegodd bod oedi cyn sefydlu pwyllgor ar ôl i swyddog iaith newydd ymuno â’r cyngor.
Dywedodd prif weithredwr y cyngor Dr Caroline Turner: “Mae’n drueni nad yw pwyllgor wedi’i sefydlu a byddwn yn symud ymlaen yn awr i gynnig pobl i fod yn rhan o’r grŵp hwnnw a byddaf yn sicrhau y bydd yn dechrau cyn gynted â phosibl. ”
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Gibson-Watt: “Mae hon yn ddogfen bwysig ac mae rhai argymhellion pwysig ynddi.”
Cytunodd y cabinet yn unfrydol ar argymhellion yr adroddiad.