Mae ymgyrchwyr wedi croesawu tro pedol gan Gyngor Wrecsam oedd eisiau eu gwahardd rhag defnyddio ardal gyhoeddus i gynnal gorymdaith annibyniaeth i Gymru.

Daeth beirniadaeth gref ar yr awdurdod lleol yr wythnos hon ar ôl iddyn nhw ddweud wrth drefnwyr AUOB Cymru (All Under One Banner) na allen nhw gynnal y digwyddiad yng nghae Llwyn Isaf yn Wrecsam ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2).

Mae’r orymdaith annibyniaeth wedi ei threfnu mewn cydweithrediad rhwng AUOBCymru, Indy Fest Wrecsam ac YesCymru

Fe wnaeth swyddogion y Cyngor wrthod rhoi caniatâd iddyn nhw ddefnyddio’r safle y tu allan i Neuadd y Dref, gan nodi rheolau sy’n datgan na chaniateir digwyddiadau gwleidyddol.

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru, Carrie Harper, bod y penderfyniad yn un “hurt”, gydag ymgyrchwyr yn addo herio’r gwaharddiad.

Fodd bynnag, fe gyhoeddodd yr awdurdod brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 28) y byddai’n caniatáu i’r orymdaith fynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd ar ôl ailystyried.

‘Buddugoliaeth i’r mudiad annibyniaeth’

Dywedodd Pol Wong o Indy Fest Wrecsam ei fod yn hapus gyda’r tro pedol gan ei fod yn credu bod y penderfyniad gwreiddiol yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth Hawliau Dynol.

Dywedodd: “Yn amlwg rydym yn falch eu bod wedi ailystyried y penderfyniad cychwynnol ac mae hon yn fuddugoliaeth i’r mudiad annibyniaeth yn erbyn safiad annemocrataidd gan y cyngor.

“Rydym yn mawr obeithio gweld arweinwyr y cyngor yn adolygu eu polisi presennol sydd, fel yr ydym wedi datgan, yn ein barn ni, yn anghyfreithlon.

“Rydym yn edrych ymlaen at siarad am ddyfodol Cymru ac mae gwahoddiad agored i bawb sydd â diddordeb mewn clywed mwy i ddod i ymuno yn y sgwrs.

“Fe fydd yn ddigwyddiad anhygoel, mae’r heddlu yn arbennig wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi darparu arweiniad gwych.”

Y cyngor yn gwadu’r gwaharddiad

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Rydym wedi adolygu’r cais i ddefnyddio Llwyn Isaf ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf.

“Yn unol â’n polisi a’n dull gweithredu arferol, ni fyddem fel arfer yn cytuno i archebu Llwyn Isaf ar gyfer gorymdeithiau a ralïau.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hawliau rhyddid mynegiant a rhyddid i ymgynnull ac o dan yr amgylchiadau ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau i atal defnydd o Lwyn Isaf ddydd Sadwrn.”

Mae arweinwyr clymblaid annibynnol a Cheidwadol y cyngor hefyd wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn gwadu bod gwaharddiad erioed mewn grym.

Dywedon nhw fod y protocol wedi’i ddiweddaru’n fwyaf diweddar yn 2011 i atal y grwp eithafol Cynghrair Amddiffyn Lloegr [English Defence League] rhag defnyddio Llwyn Isaf i gynnal rali.

Ond dywedodd arweinydd y cyngor Mark Pritchard, y dirprwy arweinydd David A Bithell ac arweinydd grŵp y Torïaid Hugh Jones eu bod yn parchu hawl yr ymgyrchwyr annibyniaeth i gynnal gorymdaith heddychlon.

Dywedon nhw: “Mae’r digwyddiad wedi bod yn y penawdau’r wythnos hon ar ôl honiadau bod y cyngor yn ceisio ‘gwahardd’ yr orymdaith. Nid yw hyn yn wir, ac rydym am egluro hyn.

“Cafodd cais swyddogol gan y trefnwyr i ddefnyddio Llwyn Isaf ei wrthod, ac roedd hyn yn seiliedig ar brotocol y cyngor sy’n nodi na ddylai’r lleoliad gael ei ddefnyddio ar gyfer ralïau gwleidyddol.

“Cafodd y protocol ei roi ar waith yn 2011 oherwydd pryderon am grwpiau asgell dde eithafol – a oedd yn weithgar iawn bryd hynny – oedd eisiau defnyddio Llwyn Isaf ar gyfer gorymdeithiau a ralïau.

“Fodd bynnag, nid yw’r cyngor erioed wedi dweud y byddai’n ceisio atal yr orymdaith annibyniaeth y penwythnos hwn, ac nid ydym ni – fel arweinwyr gwleidyddol yn y cyngor – erioed wedi gwneud unrhyw ymdrech i ‘wahardd’ nac atal yr orymdaith rhag mynd yn ei blaen.”

Mae disgwyl i’r rali annibyniaeth ddechrau yn Llwyn Isaf o 10.30am ddydd Sadwrn, gyda’r orymdaith yn dechrau am 12pm. Mae nifer o berfformwyr wedi’u trefnu, gan gynnwys Dafydd Iwan.