Mae Gŵyl Canol Dre yn dychwelyd i Gaerfyrddin wythnos nesaf (dydd Sadwrn, Gorffennaf 9) am y tro cyntaf ers Covid.
Dyma’r trydydd tro i Fenter Gorllewin Sir Gâr drefnu’r ŵyl a fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Myrddin.
Ymysg y perfformwyr eleni bydd Mari Mathias, Pwdin Reis, 50 Shêds o Lleucu Llwyd, Eädyth, Los Blancos, Al Lewis a Candelas.
Bydd perfformiadau gan blant a phobol ifanc o amgylch yr ardal hefyd a hefyd sioeau gan Siani Sionc a Mewn Cymeriad.
Gyda phedair pabell y tro hwn, bydd sesiynau stori, gweithgareddau creadigol, cyflwyniadau, gweithdai dawns a llenyddol a llawer mwy yn rhan o’r arlwy.
Bydd hefyd cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau yn yr ardal chwaraeon ac ar lithren wynt a bydd stondinau yno’n gwerthu nwyddau, stondinau gan fudiadau ynghyd â’r ddau lwyfan.
‘Grêt cael pawb yn ôl at ei gilydd’
Fe gafodd yr ŵyl ei gohirio ddwy flynedd yn olynol yn sgil Covid ond mae Prif Weithredwr Menter Gorllewin Sir Gâr, Dewi Snelson, yn dweud ei bod yn deimlad braf cael dod â’r ŵyl yn ôl.
“Mae o’n teimlo fel amser hir, yn amlwg, ers i ni gynnal yr ŵyl y tro diwethaf yn 2019 felly fydd o’n grêt cael pawb yn ôl at ei gilydd i ddathlu,” meddai wrth golwg360.
“Mi fydd o’n rhywbeth tebyg i be rydan ni wedi gwneud yn y ddwy flynedd rydan ni wedi gallu ei gynnal o. Felly fydd yn arlwy o artistiaid amrywiol yn chwarae.
“Ond wedyn mae yna hefyd pedair pabell amrywiol sydd efo gweithdai llenyddiaeth, crefft, cerdd, dawns, drama a rhywbeth at ddant bawb.”
‘Pwysicach byth’ bod digwyddiadau am ddim
Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn falch o allu cynnal yr arlwy yn rhad ac am ddim.
“Dyma fydd y trydydd tro i ni gynnal o ac rydan ni wedi llwyddo i gynnig o am ddim bob tro,” meddai Dewi.
“Ond mae’n bwysicach byth ar hyn o bryd achos mae costau bob dim mor ddrud felly mae’n golygu bod unrhyw un yn gallu dod, mwynhau a chymryd rhan, a hynny heb orfod talu ceiniog am fod yna.
“Rydan ni’n falch iawn ein bod ni’n gallu gwneud hynny yn ystod cyfnod mor anodd i nifer o bobol.”
Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.