Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru “i fynd i’r afael a’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).”
Daw’r galwadau cyn y ddadl am adroddiad gan Bwyllgor y Senedd sy’n craffu ar amseroedd aros y GIG yng Nghymru.
Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gyhoeddi ym mis Ebrill ac mae’n dweud bod angen mynd i’r afael ar frys i helpu pobl sy’n aros am driniaeth.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod amseroedd aros wedi’u heffeithio gan y pandemig ond dywedodd bod yna restrau aros hir cyn Covid-19.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George AS: “Efallai y bydd rhai pobl yn dirywio ac angen gofal acíwt neu ofal brys. Yn erbyn cefndir o gostau byw cynyddol, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio neu y mae eu gwariant wedi cynyddu o ganlyniad i’w cyflwr wynebu ansicrwydd ariannol cynyddol.”
Mae aelodau’r Pwyllgor wedi clywed adroddiadau am yr effaith y mae’r rhestrau aros hir yn ei chael ar unigolion a’u bywydau, gan gynnwys Jill Davies o Abertawe. Fe deithiodd hi dramor ar gyfer llawdriniaeth, lle’r oedd triniaeth breifat yn rhatach ond roedd hynny yn dilyn pedair blynedd o gamddiagnosis.
Yr wythnos diwethaf datgelwyd bod:
- Nifer y bobl sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth yng Nghymru bellach yn 68,032 – cynnydd o 887% mewn blwyddyn – mwy na phum gwaith y ffigwr yn Lloegr (12,735).
- 1 o bob 4 claf yng Nghymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth.
- Yr amser aros ar gyfartaledd yng Nghymru oedd 22.5 wythnos.
- Bu’n rhaid i draean o gleifion aros dros y targed o bedair awr i gael eu gweld yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a 10,000 yn aros dros 12 awr yn ysbytai Cymru, bron i ddwbl y nifer yr un amser y llynedd.
- Dim ond 54.5% o ymatebion i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol a gyrhaeddodd o fewn wyth munud, i lawr o 60.6% ym mis Mai 2021.
“Annerbyniol o hir”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies AS: “Mae’r amseroedd aros y mae un ymhob pump o bobl yng Nghymru yn eu hwynebu am driniaeth gan y GIG yn annerbyniol o hir. Mae’n anodd credu bod amseroedd aros yn gwaethygu yma tra bod gwelliannau’n digwydd mewn mannau eraill yn y DU.
“Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod y rhesymau am hyn – nid y meddygon a’r nyrsys gweithgar sy’n gweithio oriau hir ac anodd sydd ar fai, ond y Llywodraeth Lafur sydd wedi camreoli’r gwasanaeth iechyd ers chwarter canrif. Mae hyn yn amlwg o’r rhestrau aros hir a ddyblodd yn y flwyddyn cyn i’r pandemig daro.
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael a’r GIG.”