Mae disgwyl i ddyn 29 oed fynd gerbron llys yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, 29 Mehefin) ar gyhuddiad o lofruddio Zara Aleena yn Llundain.
Cafodd y ddynes 35 oed ei lladd mewn ymosodiad ar stryd yn Ilford, dwyrain Llundain ddydd Sul (26 Mehefin) wrth iddi gerdded adre.
Cafodd ei darganfod gan aelodau o’r cyhoedd tua 2.45yb a chafodd parafeddygon eu galw. Dangosodd archwiliad post mortem ei bod wedi marw o ganlyniad i “nifer o anafiadau difrifol.”
Mae Jordan McSweeney, 29, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio a hefyd wedi ei gyhuddo o geisio treisio a lladrata.
Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Tafwys yn ddiweddarach.
Yn y cyfamser mae ei theulu wedi dweud mewn datganiad y dylai bod gan bob menyw’r hawl i gerdded adref yn ddiogel.
Maen nhw wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud bod yn “rhaid i ni atal trais yn erbyn menywod a merched.”
Dywedodd ei theulu bod Zara wedi graddio ym mis Hydref ar ôl astudio’n helaeth a dim ond ers rhai wythnosau y bu’n gweithio yn y Llysoedd Barn Brenhinol.