Mae diplomydd o Gymru, a oedd wedi ffoi o Wcráin ar ôl i’r Arlywydd Vladimir Putin lansio ei ymosodiad, wedi dychwelyd i’r wlad i helpu i ailagor Llysgenhadaeth Prydain yn Kyiv.
Mae’r cynghorydd gwleidyddol Kate Davenport yn rhan o’r tîm sydd â’r dasg o ddangos undod â Wcráin trwy ailagor y Llysgenhadaeth i gynnig cefnogaeth ddyngarol a gwleidyddol i lywodraeth yr Arlywydd Zelensky.
Gorfodwyd y Llysgenhadaeth i gau dros dro ychydig cyn goresgyniad anghyfreithlon Rwsia ym mis Chwefror ond dychwelodd Llysgennad y Deyrnas Unedig Melinda Simmons i Kyiv ym mis Ebrill.
‘Sefyll gyda nhw pob cam o’r ffordd’
“Rydym yn falch o fod yn ôl,” meddai Kate Davenport.
“Yn y pen draw, mae ailagor Llysgenhadaeth Prydain yn dangos i’r Wcraniaid bod y DU yn llythrennol yn sefyll gyda nhw bob cam o’r ffordd.
“Mae gwydnwch a gallu i addasu yr Wcraniaid yn amlwg i’w weld.
“Mae Kyiv yn dychwelyd i’w bywiogrwydd cyn y rhyfel – ond mae’n ddinas sydd wedi newid.
“Gyda’r gofod awyr yn dal i fod ar gau, mae’r daith hir i mewn o’r gorllewin yn mynd â chi heibio i adeiladau sydd wedi eu difrodi.
“Mae seirenau cyrch awyr sydd i’w clywed sawl gwaith y dydd yn Kyiv yn ein hatgoffa bod ymosodiad llwyr Rwsia ar yr Wcrain yn parhau ac nad yw’r ddinas yn imiwn.
“Mae rhyddhad a hapusrwydd aduniadau yn gymysg â thristwch dwfn a galar am drasiedïau unigol – rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi marw.
“Rydym hefyd yn galaru am golli ein bywydau yn Kyiv yn y gorffennol pan oedd yn heddychlon, ac fel unrhyw brifddinas Ewropeaidd fodern arall, hyd yn oed yn yr wyth mlynedd o ryfel yn Donbas.”
‘Mae fy mywyd cyfan mewn fflat yn Kyiv’
Aeth Kate gyda’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss a Llysgennad y Deyrnas Unedig Melinda Simmons i gyfarfodydd gyda llywodraeth yr Arlywydd Zelensky ychydig ddyddiau cyn i danciau Putin groesi’r ffin ar Chwefror 24.
Mae hi’n dweud na allai gredu ei bod wedi cael ei dal mewn ymosodiad sy’n gadael Ewrop yn nes at ryfel nag ar unrhyw adeg mewn 70 mlynedd.
Dywedodd Kate, sy’n uniaethu’n gryf fel Cymraes: “Does gen i ddim cartref yn y DU felly mae fy mywyd cyfan mewn fflat yn Kyiv ac, yn sydyn, mae’n rhaid i chi benderfynu beth i’w bacio mewn cês a beth i’w adael ar ôl.
“Y peth anoddaf oedd yr holl ffrindiau yn Wcrain roedd yn rhaid i ni eu gadael ar ôl.”
Mae Llywodraeth y DU wedi addo £1.3 biliwn o gymorth milwrol a chymorth dyngarol i Wcráin, gan gynnwys £400miliwn o Gymorth Datblygu Swyddogol a £220miliwn o gymorth dyngarol.