Caiff creiriau a thrysorau o gasgliadau Prifysgol Aberystwyth sylw mewn cyfrol arbennig fydd yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf (dydd Gwener, Hydref 14) fel rhan o’r dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers agor Coleg Prifysgol cyntaf Cymru.
Mewn cyfrol ddarluniadol hardd, daw Ceiniogau’r Werin | The Pennies of the People â chyfoeth o straeon a phobol o orffennol a phresennol y brifysgol yn fyw drwy 150 o wrthrychau.
Daw’r gwrthrychau’n bennaf o gasgliadau ac adrannau’r Brifysgol ei hun, ac maen nhw’n amrywio o gyfarpar pelydr-X cynnar ac offer cynhyrchu caws, i graffiti myfyrwyr y gorffennol ar waliau’r Hen Goleg a gweithiau celf trawiadol.
Yn eu plith hefyd mae llyfr cofnodion gwreiddiol y pwyllgor o ddyngarwyr gwladgarol oedd wedi cyfarfod yn y 1860au i ymgyrchu dros sefydlu Prifysgol i Gymru, a’r gofrestr yn nodi mewn llawysgrifen enwau’r myfyrwyr cyntaf hynny a ddaeth i Aberystwyth yn 1872.
Ochr yn ochr â delweddau lliw gan y ffotograffydd proffesiynol Rolant Dafis, mae ysgrif fer, darn o ryddiaith neu gerdd i gyd-fynd â phob gwrthrych wedi’u llunio gan aelodau a chyn aelodau staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, a chyfeillion.
Mae’r awduron yn cynnwys Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure; y prifardd ac Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Mererid Hopwood; Pennaeth yr Ysgol Gelf, yr Athro Robert Meyrick; Canghellor y Brifysgol, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd; y gyn-fyfyrwraig, awdur a chyn-Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4, Sioned Wiliam, a nifer o gyfranwyr eraill.
Caiff y gyfrol clawr caled, 312 o dudalennau, ei lansio ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr, sy’n ddathliad blynyddol i nodi agor y brifysgol mewn gwesty Fictoraidd anorffenedig ger y lli yn Aberystwyth ym mis Hydref 1872.
‘Talwn deyrnged i’n sylfaenwyr’
“Mae Ceiniogau’r Werin | The Pennies of the People yn ychwanegiad gwych at y rhaglen amrywiol o weithgareddau sydd wedi’i threfnu i ddathlu’r pen-blwydd arwyddocaol hwn a’n llwyddiannau dros y 150 mlynedd diwethaf,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth cyn y lansiad yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n 50 oed eleni.
“Wrth lansio’r gyfrol, talwn deyrnged i’n sylfaenwyr ac i bobol Cymru a gyfrannodd eu ceiniogau prin i sefydlu Coleg Prifysgol cyntaf Cymru yma yn Aberystwyth.
“Mae llawer wedi digwydd ers i ni agor ein drysau ym 1872 ond rydym yn parhau yn driw i’n hegwyddorion sylfaenol sef darparu addysg gynhwysol ac ymchwil arloesol sy’n ymateb i anghenion Cymru a’r byd ehangach.”
Yn ogystal â gwrthrychau o gasgliadau’r brifysgol ei hun, caiff rhai gwrthrychau eu cynnwys trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac eraill.
“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r gwaith o gynhyrchu’r gyfrol hon, gan fynd ar daith ysbrydoledig trwy ystod eang o gasgliadau i ganfod straeon o’r 150 mlynedd diwethaf,” meddai’r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol a chadeirydd Bwrdd Golygyddol y gyfrol.
“Dyma ymdrech wirioneddol ar y cyd ar draws teulu eang y brifysgol ac, fel Bwrdd Golygyddol, rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at greu cyhoeddiad arbennig iawn a fydd yn gadael gwaddol parhaol yn dilyn dathliadau’n pen-blwydd yn 150.”
- Mae Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein, gan gynnwys gwefan y Brifysgol, am £25.