Mae Apêl Llifogydd Pacistan DEC Cymru wedi codi £1m o fewn ychydig dros fis, a hynny yn dilyn rhodd sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi £100,000 tuag at yr apêl i ategu at roddion gan y cyhoedd.

Mae pryderon difrifol ar hyn o bryd y gall fod trychineb ar y gorwel, wrth i ddŵr anniogel a mosgitos arwain at don o afiechyd a marwolaeth.

Mae £30m wedi’i godi ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys £5m o arian cyfatebol drwy gynllun Aid Match Llywodraeth San Steffan.

Mae’r apêl wedi derbyn cefnogaeth sawl ffigwr blaenllaw, gan gynnwys Ei Fawrhydi’r Brenin Charles III a’r Frenhines Gydweddog, Tywysog a Thywysoges Cymru, yr enillydd gwobr Nobel ac ymgyrchydd Malala Yousafzai a’r awdur a darlledwr Adil Ray.

Fe wnaeth Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (yr ECB) gyfateb rhoddion chwaraewyr yn ystod y gyfres ugain pelawd rhwng Lloegr a Phacistan yn ddiweddar.

Afiechydon

Mae teuluoedd a oroesodd y llifogydd gwreiddiol bellach yn wynebu peryglon newydd wrth i afiechydon fel colera, dolur rhydd, malaria a dengue ledaenu’n sydyn o ganlyniad i ddiffyg dŵr yfed glân a dinistr yr isadeiledd dŵr.

Mae ardaloedd helaeth o ddŵr llonydd wedi cynnig man magu peryglus ar gyfer mosgitos.

Gan adlewyrchu’r dirywiad hyn, ar ddydd Mawrth (Hydref 4) cynyddodd y Cenhedloedd Unedig eu hasesiadau o’r cymorth dyngarol sydd ei angen ar y wlad yn sylweddol o’r $160m gwreiddiol i $816m.

Mae 11 o elusennau sy’n aelodau o DEC eisoes ar lawr gwlad yn darparu cymorth achub bywyd.

Mae elusennau DEC yn gweithio i ddarparu bwyd, dŵr glân a lloches brys yn ogystal â gofal iechyd, cyflenwadau hylendid hanfodol a glanweithdra.

Derbyniodd Naseebo Mai, sy’n fam i bump o blant, gymorth gan bartner Tearfund, REEDS Pakistan yn ardal Rajanpur, Punjab.

“Yn y dechrau, daeth y dŵr yn araf iawn felly sylweddolon ni ddim pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa, ac yna’n sydyn iawn roedd y dŵr yn ein llethu,” meddai.

“Llwyddon ni i gasglu ychydig o eitemau o’r tŷ, ond yn y bôn mae’r llifogydd wedi fy ngadael i a’m teulu yn waglaw.

“Cyrhaeddodd tîm REEDS Pakistan ni yn ystod ein hawr dywyllaf a darparu bwyd wedi’i goginio, dŵr yfed diogel a phabell fel lloches dros dro i’m teulu. Heb y cymorth hwnnw dw i wir ddim yn gwybod beth fydden ni wedi gwneud.”

Bydd arian Apêl Llifogydd Pacistan y DEC yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ar ffurf bwyd a thriniaethau maethol, i ddosbarthu grantiau arian parod, darparu dŵr glân a chyfleusterau glanweithdra, gofal meddygol brys, lloches dros dro a chynghori trawma.

• Gallai £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i ddau o bobol

• Gallai £50 ddarparu lloches brys i ddau deulu

• Gallai £100 ddarparu bwyd brys i ddau deulu am fis

‘Ymateb anhygoel’

“Rydym wedi gweld ymateb anhygoel i’r trychineb syfrdanol hwn, ac rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi’r apêl am eu haelioni,” meddai Saleh Saeed, Prif Weithredwr y DEC.

“Mae’r gefnogaeth hon wedi galluogi elusennau DEC i ddarparu cymorth hanfodol i bobol mewn angen ac i leddfu rhywfaint o’r dioddefaint y mae miliynau o bobol ym Mhacistan yn ei wynebu ar hyn o bryd.

“Ond mae maint y dinistr yno yn golygu bod angen i ni wneud llawer mwy os ydym am amddiffyn bywydau’r dynion, menywod a phlant niferus sy’n wynebu wythnosau a misoedd o newyn ac afiechyd.

“Rydym felly’n gofyn i’r rhai sy’n gallu fforddio helpu i roi’r hyn a allant – mae’r cronfeydd hyn yn llythrennol achub bywydau rai o bobol fwyaf bregus y byd ar adeg o angen dirfawr.”

‘Sefyllfa mor anhygoel o anodd’

“Mae hon yn sefyllfa mor anhygoel o anodd,” meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Tearfund Cymru.

“Mae pobol wedi colli eu cartrefi a’u bywoliaethau.

“Mae teuluoedd yn byw mewn pebyll dros dro dan amodau bron yn amhosibl.

“Ar ôl colli eu cnydau a’u storfeydd bwyd, mae dod o hyd i’r pryd nesaf yn her wirioneddol.

“Ar ben hyn mae lledaeniad afiechydon yn achosi mwy o drallod a gofid.

“Mae plant a merched beichiog yn arbennig o agored i niwed.”