Mae tair ardal heddlu yng Nghymru ymhlith y gwaethaf am achosion o oryrru, yn ôl ystadegau newydd.

Forbes Advisor, gwefan cymharu prisiau sy’n rhoi cyngor ariannol, sydd wedi cynnal yr arolwg gan ddefnyddio data’r heddlu rhwng 2010 a 2020 er mwyn canfod ym mle mae’r troseddwyr gwaethaf.

Swydd Lincoln ddaeth i’r brig, gyda Heddlu’r De yn ail gyda 5.23 o droseddau ym mhob 1,000 o bobol, a chyfanswm o 7,030 o droseddau ymhlith y boblogaeth o 1.34m.

Yn 2018 roedd troseddau ar eu huchaf, gydag 8,894 – mwy na dair gwaith y nifer yn 2010 (2,603).

Gogledd Swydd Efrog sy’n drydydd, gyda Gogledd Cymru nesaf gyda chyfradd o 4.34 o droseddau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth – roedd 3,054 o droseddau yn yr ardal heddlu bob blwyddyn allan o boblogaeth o 703,400.

O ran Dyfed-Powys, oedd yn bumed ar y rhestr, roedd cyfartaledd o 4.33 o droseddau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth.

Swydd Stafford, Gorllewin Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Bedford a Sir Caer sy’n cwblhau’r rhestr.

Swydd Durham, Swydd Derby, Wiltshire a Llundain oedd tua gwaelod y rhestr.

‘Mae goryrru’n beryglus’

“Mae goryrru’n beryglus,” meddai Kevin Pratt o Forbes Advisor.

“Mae gan heolydd derfynau cyflymdra am reswm, a therfynau ydyn nhw, nid targedau.

“Dylai pob gyrrwr aros y tu fewn i’r terfynau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y byddan nhw’n achosi anafiadau a gwrthdrawiadau angheuol.”