Ann Bowen Morgan o Blaid Cymru yw Cynghorydd newydd Llanbedr Pont Steffan.

Mae’n olynu Hag Harries, y cynghorydd blaenorol fu farw fis Mai eleni.

Bydd hi’n cynrychioli’r ward fel Cynghorydd y sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Pleidleisiodd 42% o’r rheiny oedd yn gymwys yn y ward, gyda 39.2% o’r pleidleisiau’n mynd i Ann Bowen Morgan.

Bydd hi’n dechrau yn ei swydd dros y dyddiau nesaf.