Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru y grym i wella cyflogau nyrsys, a bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio “pob grym datganoledig” i ddatrys y sefyllfa drwy gynnig tâl gwell.
Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru fod “yr alwad yn glir gan nyrsys”, ac mai “mater i’r Llywodraeth yw profi eu bod nhw’n gwrando”.
Mae nyrsys wedi ymlâdd, meddai, gan ychwanegu mai rhagor o nyrsys yn gadael y proffesiwn yn llwyr fydd canlyniadau anfwriadol diffyg gweithredu.
Mae ymchwil gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos bod o leiaf 2,900 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig y llynedd, a bod Llywodraeth Cymru “yn gyrru staff nyrsio i ffwrdd o’r Gwasanaeth Iechyd”, meddai.
Bydd Plaid Cymru yn gwneud yr alwad ar Lywodraeth Cymru mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 23), i roi cyflog tecach i nyrsys ac ail-negodi gyda nhw.
Ond mewn gwelliant i’r cynnig, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dileu’r alwad hon.
‘Gormod o waith, ond dim digon o gyflog’
“Mae nyrsys yn cael eu gor-weithio, heb eu talu digon ac wedi ymlâdd yn llwyr,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Os nad yw’r newyddion bod gormod o nyrsys yn gadael eu galwedigaeth eisoes yn arwydd bod pethau’n ddifrifol anghywir yn y gwasanaeth gofal iechyd, yna mae’n rhaid i’r bleidlais ddiweddar dros streicio fod yn ddeffroad i’r Llywodraeth.
“Ond tra bod nyrsys yn galw am help, ydy Llywodraeth Cymru yn gwrando?
“Mae Plaid Cymru yn mynd â’r ddadl i’r Senedd gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob grym sydd ar gael i lunio cynnig tâl gwell i’n nyrsys sy’n gweithio’n galed.
“Eto i gyd, yr unig gamau maen nhw wedi’u cymryd mewn ymateb yw diwygio’r cynnig drwy ddileu’r alwad honno.
“Mae nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith, ond eto maent yn wynebu toriad cyflog mewn termau real, o ganlyniad i argyfwng economaidd San Steffan a cham-reolaeth Llywodraeth Cymru o’n gwasanaeth gofal iechyd.
“Nyrsys yw asgwrn cefn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond bydd diffyg cyflog teg yn gorfodi llawer mwy i adael, gan adael y gweithlu yn wannach byth. Yn y pen draw, cleifion fydd yn talu pris am gamreolaeth y Llywodraeth o’n gwasanaeth iechyd a gofal.”