Does dim opsiwn arall ond streicio dros dâl, pensiynau ac amodau gwaith teg, yn ôl darlithwyr Prifysgol Caerdydd.
Bydd darlithwyr wyth o brifysgolion Cymru yn ymuno â chydweithwyr mewn 150 o sefydliadau dros y Deyrnas Unedig i streicio am dri diwrnod ddiwedd y mis.
Mae aelodau undeb UCU Cymru yn galw am welliannau o ran tâl, sydd wedi gostwng 25% mewn gwerth dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, yn ogystal â llwyth gwaith, cytundebau ansefydlog a thâl cyfartal.
Dyma’r pumed tro mewn pum mlynedd i aelodau’r undeb gymryd rhan mewn streiciau.
Llwyddodd staff prifysgolion i amddiffyn eu pensiynau rhag toriadau yn 2018, er gwaethaf tystiolaeth fod y rhaglen bensiynau’n gweithio’n iawn, ond mae cyflogwyr a’r USS, darparwyr pensiynau staff prifysgolion, bellach wedi gwneud toriadau i bensiynau.
“Fel mae pethau’n edrych ar hyn o bryd, dw i’n mynd i gael llai o bensiwn o gymharu â phobol sydd wedi bod yn gweithio yn y sector am hirach a bydd rhaid i fi weithio am hirach,” meddai Dr Siôn Jones, darlithydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, wrth golwg360.
“Dw i’n mwynhau’r swydd ond dw i hefyd eisiau ymddeol mewn oed eithaf parchus.”
‘Y dewis olaf’
Peidio gweithio am dridiau (Tachwedd 24, 25 a 30) ac amharu ar y drefn ydy’r unig ffordd y bydd rheolwyr prifysgolion yn gwrando ac yn gwella cyflog, yn ôl Siôn Jones.
“Dydy’r undeb ddim yn gweld opsiwn arall, maen nhw wedi trio negydu efo rheolwyr prifysgol ond dydyn nhw ddim yn barod i drafod.
“Mae hwn yn last resort. Wrth gwrs, dydw i ddim eisiau mynd ar streic, dw i a fy nghydweithwyr eisiau dysgu myfyrwyr, gwneud ymchwil ac ati ond does yna ddim opsiwn arall.
“Dw i’n eithaf ffodus fel darlithydd, fyswn i ddim yn cwyno am faint dw i’n cael fy nhalu ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ei fod o’n gysylltiedig â chwyddiant.
“Mae gen i gydweithwyr sydd ddim yn cael eu talu cystal.”
Yn bersonol, mae Siôn Jones yn ymdopi â’i lwyth gwaith, ond mae nifer o’i gydweithwyr yn gorweithio, ac yn gweithio gyda’r nosau ac ar benwythnosau hefyd.
“Rydyn ni hefyd yn streicio ynglŷn â gwneud yn siŵr bod yna gydraddoldeb yn y sector prifysgolion, a bod rheolwyr prifysgolion yn delio gydag anghydraddoldebau yn seiliedig ar rywedd, ethnigrwydd a phob math o nodweddion gwarchodedig eraill.”
Bydd llinellau piced yn cael eu cynnal ddydd Iau a dydd Gwener (Tachwedd 24 a 25) mewn sawl lleoliad o amgylch Prifysgol Caerdydd rhwng 8:30yb ac 11yb, a bydd rali’n cael ei chynnal bob dydd yn ystod y streic o flaen Prif Adeilad y brifysgol, gyda gwahanol siaradwyr.
Mae croeso i unrhyw un ymuno i ddangos eu cefnogaeth, meddai Siôn Jones.
Amgylchiadau “toxic”
Mae hi’n mynd yn “toxic” gweithio dan yr amgylchiadau mewn prifysgolion yn sgil y pwysau ac amodau gwaith, medd darlithydd arall ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae ein hamodau gwaith wedi bod yn dirywio ar bob lefel, mewn gwirionedd, mae llwyth gwaith wedi dod yn fwy amhosib,” meddai Dr Renata Medeiros-Mirra, sy’n ddarlithydd mewn ystadegau yn Ysgol Ddeintyddol y brifysgol, wrth golwg360.
“Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni’n barod wedi cael achos lle mae cydweithiwr wedi cymryd ei fywyd ar sail bod y llwyth gwaith yn amhosib,” meddai.
Yn 2018, bu farw Dr Malcolm Anderson drwy hunanladdiad, a gadawodd lythyr cyn ei farwolaeth yn cyfeirio at bwysau yn y gwaith ac oriau hir.
“Fe wnaeth ail gydweithiwr gymryd ei fywyd hefyd, ac er nad oedd tystiolaeth i ddangos ei fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â llwyth gwaith, roedd ei waith yn gyfrannwr mawr.
“Mae llawer o’n cydweithwyr yn mynd i ffwrdd yn sâl, mae wir yn mynd yn toxic gweithio dan yr amgylchiadau hyn gydag anghydraddoldeb sylweddol.”
‘Cael ein gwthio i streicio’
Ynghyd â streicio dros bensiynau, mae aelodau’r undeb yn anhapus â’r codiad cyflog o 3% sydd wedi cael ei gynnig iddyn nhw, ac ychwanega Renata Medeiros-Mirra fod y bwlch yng nghyflogau menywod a dynion yn achos arall dros wrthwynebu.
“Yn amlwg, rydyn ni’n gwbl, gwbl ymwybodol y bydd hyn yn cael effaith ar fyfyrwyr, yn enwedig y criw sydd wedi bod drwy Covid – dydyn nhw’n amlwg ddim yn haeddu hyn,” meddai’r darlithydd, sy’n gadeirydd cangen Caerdydd o undeb UCU Cymru.
“Ond be’ rydyn ni’n gobeithio y gwnân nhw werthfawrogi ydy bod hyn hefyd yn ymladd dros eu sector nhw, nid yn unig dros ansawdd eu haddysg ond dros yr hyn y byddan nhw’n ei wynebu ym myd gwaith. Bydd nifer ohonyn nhw yn gweithio ym myd academia hefyd.
“Os ydy’r myfyrwyr yn sefyll ochr yn ochr â ni, yn rhoi pwysau ar brifysgolion, rydyn ni wir yn gobeithio y bydd ein hamodau gwaith ni’n gwella ac y bydd eu haddysg nhw’n gwella hefyd.
“Mae hi’n anodd dadlau nad ydy lefelau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig wedi dirywio.
“Dydy astudio addysg uwch yn y Deyrnas Unedig nawr ddim cweit yr un fath ag yr oedd, ac rydyn ni’n credu bod yr holl faterion hyn yn gysylltiedig.
“Mae’r trafodaethau ar y gweill ers 2018, ond yn anffodus rydyn ni’n teimlo’n lleol ac ar lefel genedlaethol nad ydyn nhw’n gwrando oni bai bod streic.
“Mae hynny’n eithriadol o drist, oherwydd mae e’n teimlo bron fel eu bod nhw’n gwthio ni at hyn, mae’n teimlo’n annheg iawn.”