Bydd digwyddiad recriwtio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon “yn gyfle i’r Cyngor gael momentwm a rhoi cyhoeddusrwydd”, yn ôl Cynghorydd ward Bontnewydd ac Aelod Cabinet Gwasanaeth Corfforaethol y Cyngor.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Celtic Royal yng Nghaernarfon rhwng 2yp a 6yh ddydd Iau (Tachwedd 24).
Mae Cyngor Gwynedd yn recriwtio staff ar gyfer Byw’n Iach, Addysg, Priffyrdd Bwrdeistrefol, Ymgynghoriad Gwynedd a mwy.
“Mae’r Cyngor fel cyflogwr yn gallu cael pobol i ddod mewn,” meddai Menna Jones wrth golwg360.
“Mae’n ddigwyddiad lle gall pobol ddod i weld beth sydd ar gael a beth mae’r Cyngor yn ei gynnig.
“Rwy’n meddwl bod hynny’n rywbeth mae’r Cyngor yn gwneud fwy, fel bod pobol yn ymwybodol pa fath o swyddi sydd ar gael.
“Mae gennym ni rai sydd yn fwy consultancy, mae gennym ni’r math yma o swyddi o fewn y Cyngor.
“Mae’n gyfle i ni fynd at bobol sydd yn chwilio am swyddi neu rai sydd eisiau gwybod mwy am swyddi yn y Cyngor.”
‘Buddion mawr’
Yn ôl Menna Jones, mae buddion mawr i weithio i Gyngor Gwynedd.
“Mae o’n gyfle i bobol allu cyfrannu yn ôl at yr ardal, y gymdeithas maen nhw’n rhan ohono fo,” meddai wedyn.
“Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud hynny mewn ffordd eang iawn gydag ystod o wahanol feysydd a swyddi sydd ar gael ar hyd y Cyngor.
“Mae pob math o waith, sgiliau, profiadau.
“Mae o’n gyfle ddod mewn i’r Cyngor a datblygu.
“Unwaith rydych mewn yn y Cyngor, mae cyfle i ddatblygu sgiliau, mynd ar gyrsiau, symud ymlaen. Does dim angen aros mewn un maes.
“Mae hefyd yn gyflogwr Cymraeg, efallai os wyt ti’n Gymraeg iaith gyntaf efallai rwyt ti’n fwy cyffyrddus yn trafod gwaith dydd i ddydd yn yr iaith gyntaf.
“Mae buddion ar gael gyda’r pecyn gwyliau, pensiwn da, mae o reit hyblyg ac yn cefnogi staff.
“Roeddwn yn gweithio i’r Cyngor fy hun cyn mynd yn gynghorydd, felly rwy’n gallu dweud pa mor dda oedd o.
“Roeddwn yn gallu gweithio rhan amser gan fod gennyf deulu ifanc.”
Digwyddiad sydd wedi’i anelu at bawb
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at bawb, ac mae’r Cyngor yn recriwtio drwyddi draw.
“Mae gennym swyddi sydd wedi bod yn wag ers sbel a rhai meysydd fel gofal sydd wedi bod yn galed recriwtio amdano,” meddai Menna Jones wedyn.
“Mae gennym addysg.
“Gyda’r ffair swyddi, mae penaethiaid ysgolion wedi cael gwahoddiad i ddod i siarad am yr ysgol hefyd.
“Mae pobol yn gallu gweld pa fath o opsiynau a chyfleoedd sydd ar gael.
“Ar hyn o bryd, mae swyddi yn mynd ar draws y Cyngor.
“Mae hwn yn ffordd i bob adran yn y Cyngor ddod i’r digwyddiad.”
‘Anodd recriwtio’
Pa mor anodd yw hi, felly, i recriwtio ar gyfer swyddi yn y maes gofal, er enghraifft?
“Mae’r Cyngor yn gwneud gymaint ag maen nhw’n gallu o ran bod yn gyflogwr hyblyg, a chyflogwr teg,” meddai Menna Jones.
“Nid ydym yn siwr pam bod pethau wedi newid, efallai bod blaenoriaethau pobol wedi newid ar ôl cael Covid.
“Efallai bod pobol eisiau treulio mwy o amser efo teulu.”
Mae angen gallu siarad Cymraeg “i ryw bwynt” er mwyn gweithio i’r Cyngor, meddai, ond does dim rhaid bod yn rhugl.
“Rydych yn gallu cyraedd ryw lefel berthnasol i’r swydd,” meddai.
“Hwnna yw’r gofyn cyntaf.
“Unwaith rydach chi yn y swydd, mae’r gefnogaeth yna i chi os ydach chi eisiau dysgu mwy.
“Rydych yn gallu mynd ar wahanol gyrsiau Cymraeg.
“Rwy’n meddwl bod angen gallu siarad Cymraeg llafar yn fwy nag ysgrifennu mewn rhai meysydd.
“Mewn gofal, mae’n well eich bod chi’n gallu siarad Cymraeg, Cymraeg bob dydd yn hytrach na Chymraeg ffurfiol.”
Diweithdra “ddim mor ddrwg â rhai ardaloedd eraill’
Yn hanesyddol, mae diweithdra wedi bod yn broblem ar wahanol adegau yn y sir, ond ydi hi’n gymaint o broblem erbyn hyn?
“Mae gennym ddiweithdra ond nid ydwyf yn meddwl bod o mor ddrwg â rhai ardaloedd eraill yn y Gogledd,” meddai Menna Jones.
“Rwyn credu fod diweithdra ychydig yn uwch na beth oedd o cyn Covid. Mae o ar y ffordd lawr.
“O beth rwy’ wedi gweld, mae cyfran ddiweithdra Gwynedd yn is na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.
“Yn amlwg o fewn Gwynedd, Caernarfon a Bangor sydd ychydig bach yn uwch.
“Mae hynny oherwydd bod llawer mwy o bobol yn byw yn yr ardal yna.
“Mae o yn broblem, ond dydi o ddim mor ddrwg â rhai ardaloedd eraill.”