Mae dau ffrind o Benrhyndeudraeth am droi cyfres o sgyrsiau prynhawn Sul dros baned yn bodlediad troseddeg maen nhw’n dweud yw’r cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Mae Tegwen Parry yn fyfyriwr PhD mewn Troseddeg ym Mhrifsygol Bangor ac mae gan Alun Fon Roberts ddiddordeb yn y pwnc, ac maen nhw wedi penderfynu rhannu eu trafodaethau.

Maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd, ac maen nhw bellach yn barod i rannu eu sylwadau a’u theorïau, ynghyd â gwesteion ar draws y gogledd a thu hwnt.

Yn ôl Tegwen Parry, prynu recordiwr llais er mwyn cwblhau gwaith ymchwil ar gyfer gradd meistr oedd man cychwyn y prosiect.

“Dechreuais siarad gyda fy nghymydog sydd yn gweithio o fewn y byd radio, ac mi ddaru hi ddweud wrthym faint mor hawdd oedd creu podlediad, ynghyd â’r hwyl y buasai i’w wneud ein hunain,” meddai.

“Mae’r bennod cyntaf yn rhoi braslun o’r pwnc troseddeg a chwalu rhai o’r mytholeg er mwyn dangos be’ yn union ydy Troseddeg.

“Roeddem wedi gwirioni cael yr awdur o Ynys Môn, sef Conrad Jones, i gytuno i siarad gyda ni.

“Mae o wedi ysgrifennau sawl llyfr trosedd ffug wedi ei selio ar Ynys Mon.”

‘Wedi gwirioni’

“Rydan ni wedi gwirioni bod gymaint o bobol wedi gwrando arno yn barod, gyda’r bennod cyntaf ar gael ar Spotify, a’r prif blatfformau eraill,” meddai Alun Fon Roberts.

“Rydym yn gweithio ar yr ail bennod yn barod, a fydd yn trin a thrafod carcharorion gwleidyddol o ogledd Cymru.

“Er mwyn gwrando, chwiliwch am ‘Podlediad Troseddeg Cymru’ ar eich platfform podlediad.”