Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o anghofio am y canolbarth.
Wrth siarad yn y Senedd, cododd Jane Dodds, sy’n aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, y ffaith bod yna oedi wrth sefydlu gwasanaeth trên rhwng Aberystwyth ac Amwythig.
Cafodd gwasanaeth fesul awr rhwng Aberystwyth a’r Amwythig ei gyhoeddi yn 2014, ond mae wedi wynebu oedi dro ar ôl tro ers hynny, gyda’r oedi diweddaraf yn dweud y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni rhwng 2022 a 2024.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod gwasanaeth sy’n stopio bob awr ym mhob gorsaf ar hyd Rheilffordd y Cambrian yn hanfodol er mwyn annog mwy o deithwyr i ddefnyddio’r rheilffordd, yn ogystal â rhoi hwb i fusnesau.
Mae’r blaid wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyflwyno’r gwasanaeth a mynd i’r afael â’r oedi’n uniongyrchol.
“Dim esgus”
“Mae gwir angen i bartneriaeth Llafur-Plaid Cymru ym Mae Caerdydd i flaenoriaethu’r llwybr hwn, mae’n hanfodol i fusnesau a’r cyhoedd yng Nghanolbarth Cymru,” meddai Jane Dodds.
“Mae’r ffaith iddi gael ei gohirio’n barhaus am bron i ddegawd yn dangos bod Canolbarth Cymru yn cael ei anghofio amdano unwaith eto.
“Gyda Thrafnidiaeth Cymru bellach wedi gwladoli’n llwyr ac yn eiddo i Lywodraeth Cymru, does dim esgus.
“Os yw Llafur eisiau rhoi gwaharddiad ar bob adeilad ffordd newydd y lleiaf y gallant ei wneud yw sicrhau bod gennym rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gweithio’n dda.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyflwyno’r gwasanaeth hwn a rhoi diwedd ar yr oedi yma unwaith ac am byth.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.