Yr Urdd sydd wedi derbyn teitl ‘Sefydliad y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni.

Daeth bron i 200 o enwebiadau i law, gyda phum enillydd mewn pum categori yn cael eu hanrhydeddu mewn derbyniad neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 22) fel rhan o Wythnos Elusennau Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Pwrpas y gwobrau ydy arddangos y gwahaniaeth y gall pobol ei wneud i fywydau ei gilydd drwy gydnabod gwaith a chyfraniad elusennau, grwpiau cymunedol, grwpiau dielw a gwirfoddolwyr.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn Stiwdios ITV Cymru neithiwr, a dywedodd yr Urdd ei bod hi’n “fraint” dod i’r brig.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Andrew Coppin o elusen Dynion Cerdded Canolbarth Cymru enillodd deitl Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed neu hŷn).

Gyda lefelau hunanladdiad ymysg dynion yn cynyddu yn ardal y Drenewydd a’r Trallwng, penderfynodd Andrew Coppin sefydlu grŵp cerdded a siarad i gefnogi dynion bregus.

Ers hynny, mae wedi dechrau grŵp cymysg, a derbyniodd glod mawr am ei gyfraniad i iechyd meddwl.

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn

Rachel Joseph dderbyniodd y teitl Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, am ei gwaith yn ymgyrchu dros gyd-gleifion endometriosis a menywod ag anableddau a salwch cronig yng Nghymru.

Mae hi wedi bod yn ymgyrchu ag elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru gan ddefnyddio ei phrofiadau i wella mynediad i ofal iechyd menywod ac addysg iechyd benywaidd.

Arloeswyr digidol

Enillodd Innovate Trust y wobr am eu app ‘Insight’ sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol ag anableddau dysgu.

Mae’r app rhad ac am ddim wedi torri tir newydd i’r elusen, gan gynyddu eu hymgysylltiad 500% i 1,600 o bobol yng Nghymru a dros y Deyrnas Unedig.

Llesiant yng Nghymru

Cariad Pet Therapy gipiodd y wobr Llesiant yng Nghymru am lwyddo i drawsnewid lles meddyliol amryw o gymunedau yn y de orllewin.

Maen nhw’n cynnig cymorth i gymunedau drwy 80 o dimau cŵn therapi a banciau bwyd anifeiliaid anwes, ac maen ganddyn nhw gynlluniau i ehangu eu darpariaeth i’r gogledd yn 2022/23.

‘Gwaith hynod amrywiol’

Meddai Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks: “Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn dangos y gwaith hynod amrywiol a geir yn y sector, a’r effaith y mae elusennau a gwirfoddolwyr yn ei chael ar fywydau pobl bob dydd ym mhob cymuned ledled Cymru,” meddai Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

“Rydym wrth ein bodd, yn CGGC, i allu anrhydeddu’r pum enillydd teilwng hyn.

“Os ydych chi’n cael eich ysbrydoli ganddyn nhw, yna cymerwch ran yn ystod Wythnos Elusennau Cymru trwy wirfoddoli, cyfrannu neu roi bloedd i’ch hoff elusen neu grŵp gwirfoddol!”