Mae un fu’n ymgyrchu tros gael hanes Cymru yn rhan o’r cwricwlwm newydd yn dweud bod “angen rhoi sylw i hanes y genedl”, ond fod yr ymgyrch wedi bod “yn gwthio yn erbyn drws oedd yn lled agored yn barod”.
Bydd holl blant Cymru yn dysgu am hanes Cymru, gyda chwricwlwm 2022 yn nodi y dylai hanes Cymru fod yn rhan hanfodol a chreiddiol o addysg plant ym mhob ysgol.
“Rydym yn credu y dylai pawb ddysgu am hanes ein gwlad a’i holl amrywiaeth a gallu ymdrin â’r pwnc yn feirniadol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Ein gweledigaeth yw y bydd ein dinasyddion, gan gynnwys pob person ifanc, yn deall sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi llunio’r Gymru fodern, y genedl unigryw a balch yr ydym yn rhan ohoni heddiw.
“Rydym am i’n holl ddysgwyr ddeall hanes Cymru, gan gynnwys hanes y Gymraeg.”
Ymgyrch Hanes Cymru
Un grŵp sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion yw Ymgyrch Hanes Cymru.
Cydlynydd yr ymgyrch yw Eryl Owain, sy’n dweud nad ydyn nhw’n “dymuno cymryd y clod i gyd” am lwyddiant yr ymgyrch.
“Gwnaeth Ymgyrch Hanes Cymru chware rhan,” meddai wrth golwg360.
“Gwnaeth grwpiau eraill fel Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chymdeithas Glyndŵr roi sylw i hanes Cymru.
“Mae nifer o fudiadau wedi ymgyrchu, a nifer o unigolion hefyd.
“Roedd yna deimlad o fewn Llywodraeth Cymru bod angen gwneud hyn, felly i ryw raddfa roeddem yn gwthio yn erbyn drws oedd yn lled agored yn barod.
“Mae chwarter canrif ers sefydlu’r Cynulliad a Senedd Cymru.
“Mae’r ymdeimlad yna bod Cymru yn genedl wedi tyfu ac yn naturiol felly o ganlyniad i’r ymdeimlad yna, mae angen rhoi sylw i hanes y genedl.”
‘Gwybod mwy am hanes Lloegr na hanes eu gwlad eu hunain’
Yn ôl Eryl Owain, “ymgyrch i roi mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru” oedd Ymgyrch Hanes Cymru.
“Sefydlwyd yr ymgyrch yn 2013 i gasglu tystiolaeth yn un peth am y diffyg sylw i Hanes Cymru,” meddai.
“Roedd yna dystiolaeth anecdotal i ddweud y gwir.
“Sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd gweithgor gan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, yr hanesydd, ac roedd canlyniadau’r arolwg yna yn ddamiol.
“Cyflwynwyd tystiolaeth bod nifer o ysgolion ble roedd disgyblion yn gwybod mwy am hanes Lloegr na hanes eu gwlad eu hunain.
“Roedd hanes Cymru yn cael bron dim sylw mewn llawer iawn o ysgolion.
“Dyna oedd sail sefydlu Ymgyrch Hanes Cymru, bod angen gwrthweithio hynny a dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru.
“Cynhaliwyd rhai cyfarfodydd cyhoeddus ag yn y blaen, llythyru, gohebu ag ati.
“Cawson ni wrandawon ger bron nifer o bwyllgorau yn y Senedd a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’n barn.
“Mae’r ymateb wedi bod yn dda.
“Rwy’n meddwl bod yna diffiniad gwirioneddol ar ran Llywodraeth Cymru i weld hanes Cymru yn cael i’w ddysgu.
“Rwy’n dod ’nôl at yr angen bod hynny yn digwydd trwy Gymru ym mhob ysgol.”
Pam dysgu Hanes Cymru?
Pam fod dysgu hanes Cymru mewn ysgolion yn bwysig, felly?
“Mae astudio hanes Cymru yn hanfodol i fedru deall ein bodolaeth fel cenedl, ac i ddeall ein lle fel cenedl yn y byd,” meddai Eryl Owain.
“Bratiog, anghyflawn ac anghyson oedd y ddarpariaeth.
“Roedd cymaint yn dibynnu ar ysgolion unigol ac athrawon unigol.
“Roedd cwricwlwm cenedlaethol ers 1988.
“Roedd y cwricwlwm hynny yn nodi bod hanes Cymru yn bwysig, y dylai fod hanes Cymru yn cael ei ddysgu ond am nifer o resymau, yn aml iawn doedd hynny ddim yn digwydd.
“Nid oedd yn digwydd efallai yn draddodiadol.
“Nid oedd hanes Cymru efallai yn cael sylw, a bod athrawon yn ailadrodd eu profiadau eu hunain fel disgyblion.
“Nid oedden nhw wedi cael dysgu hanes Cymru eu hunain pan oeddan nhw’n ddisgyblion, a bod nhw wedi parhau efo hynny.
“Bod hanes Cymru wedi bod yn eilbeth i hanes Lloegr, rhyw atodiad yn y gorffennol os o gwbl.
“Bod hanes yn cael ei ystyried ar un adeg yn the Kings and Queens of England.
“Os oedd yna sylw i hanes Cymru roedd yn rhyw atodiad yn hytrach na chychwyn cynllunio’r cwricwlwm o gwmpas hanes Cymru, dyna’r ffordd gywir o fynd o’i chwmpas hi.
“Nifer o athrawon wedi cael ei hyfforddi tu allan i hanes Cymru a ddim yn ymwybodol o gwbl o hanes Cymru.
“Mae yna nifer o resymau. Diffyg adnoddau yn rheswm arall.”
A fydd hanes Cymru’n cael ei ddysgu go iawn?
Mae Ymgyrch Hanes Cymru yn croesawu’r newidiadau i’r cwricwlwm i ddysgu hanes Cymru ond yn meddwl bod rhaid sicrhau ei fod yn cael ei weithredu.
“Mae’r nod yna yn clodwiw iawn,” meddai Eryl Owain.
“Yr hyn sydd yn ansicr ar hyn o bryd ydi i ba raddfa mae hynny’n cael ei weithredu, a bydd angen monitro hynny.
“Does yna ddim tystiolaeth ar hyn o bryd i fedru barnu beth sy’n digwydd mewn ysgolion.
“Mae Llywodraeth Cymru, dan y Gweinidog Addysg blaenorol, wedi sefydlu Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobol Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, i fonitro os ac i ba raddau mae ysgolion yn rhoi sylw i brofiadau pobol o’r cefndiroedd hynny.
“Mae angen gweithgor o’r fath ar gyfer monitro’r modd y mae Hanes Cymru yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion hefyd, yn fy marn i.
“Byddai hynny’n gam pwysig i weld beth sy’n digwydd.
Un perygl yw y gall rhai ysgolion, drwy astudio hanes lleol yn unig, deimlo eu bod nhw’n cyflwyno hanes Cymru.
“Mae hanes lleol yn bwysig iawn, gall rhai ysgolion efallai ddim symud yn bellach, ac nid yw hanes Cymru yn cael ei gyflwyno o reidrwydd drwy astudio hanes lleol yn unig.
“Un peth roeddem ni’n feirniadol o Lywodraeth Cymru oedd eu bod nhw wedi gwrthod cynnwys yng Nghwricwlwm 2022 ganllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth y dylai ysgolion ei gynnwys wrth gynllunio’u cynlluniau gwaith.
“Corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru.
“Rwy’n meddwl byddai cael canllaw o’r fath wedi bod yn gymorth iddyn nhw weld beth oedd y prif ddatblygiadau dros y canrifoedd y dylid eu cynnwys.”