Mae mudiad annibyniaeth YesCymru yn dweud bod “democratiaeth wedi marw ar yr ynysoedd hyn”.
Daw hyn ar ôl i’r Goruchaf Lys ddyfarnu na chaiff yr Alban gynnal refferendwm annibyniaeth arall heb ganiatâd San Steffan – penderfyniad sydd yn “annemocrataidd” yn ôl Plaid Cymru, sy’n dweud y dylai fod yn “alwad i ddeffro” i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a’i lywodraeth.
Dim ond 45% o Albanwyr oedd o blaid annibyniaeth yn y refferendwm cyntaf yn 2014, ond mae’r ffigwr yn nes o lawer at 50% y tro hwn, yn ôl polau piniwn niferus ac roedd Llywodraeth yr Alban yn awyddus i gynnal refferendwm y flwyddyn nesaf, gan fynnu y byddai’n rhaid iddo fod yn gyfreithlon.
Roedd yr achos llys yn ymwneud â throsglwyddo pwerau sydd wedi’u cadw gan San Steffan i Holyrood fel pwerau datganoledig.
Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi bod yn dweud yn ystod y frwydr gyfreithiol y byddai’r SNP yn barod i sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf ar un polisi unigol, sef ennill annibyniaeth, pe baen nhw’n colli’r achos.
Yn ôl Senedd yr Alban, mae mwyafrif clir o aelodau o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth, os nad annibyniaeth ei hun, ac felly mae ganddyn nhw fandad i’w gyflwyno.
Ond yn sgil y dyfarniad, mae’n ymddangos na fyddan nhw’n gallu gweithredu ar y mandad honedig hwnnw am y tro.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu’r hawl i hunanlywodraeth i’r holl wledydd datganoledig,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae’r cyfuniad o Lywodraeth Geidwadol wrth-ddemocrataidd a gwrthblaid Llafur fel ci sy’n nodio’i ben yn golygu na fydd ein lleisiau fyth yn bwysig tra ein bod ni wedi’n clymu i gyfundrefn San Steffan.
“Dylai hyn fod yn alwad i ddeffro i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, sy’n gweld y Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o bedair cenedl sy’n dewis cyfuno sofraniaeth.
“Dydy hynny’n amlwg ddim yn wir o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, a fydd hi ddim o dan Lywodraeth Lafur y dyfodol yn San Steffan.
“Mae Plaid Cymru’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn yn gadarn yr hawl i hunanlywodraeth heddiw.
“Rhaid i ni gyd sefyll yn unedig yn erbyn San Steffan, sy’n ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth.”
‘Yr hoelen olaf’
“Mae democratiaeth wedi marw ar yr ynysoedd hyn,” meddai YesCymru.
“Y penderfyniad i wrthod rhoi hawl sylfaenol i ddinasyddion yr Alban yw’r hoelen olaf.
“Yng ngolau dydd amlwg, mae’n amlwg i bawb mai sefydliad clyd San Steffan sy’n pennu ein holl broblemau yn y dyfodol.”
Mewn neges arall, maen nhw’n dweud bod “angen gofyn cwestiynau sylfaenol am natur y Deyrnas Unedig”.
“Os na all cenedl sydd yn rhan sylfaenol o’r hyn a elwir yn undeb gwirfoddol gynnal refferenda democrataidd ar eu dyfodol – yna beth yn union yw’r berthynas rhwng San Steffan, yr undeb a’r gwledydd sydd yn rhan ohoni?”