Mae Uchel Lys Catalwnia wedi cael nifer o wleidyddion yn ddieuog o anufudd-dod.
Roedd achos Roger Torrent, Josep Costa, Eusebi Campdepadrós ac Adriana Delgado yn ymwneud ag anwybyddu’r Llys Cyfansoddiadol a bwrw ymlaen â chynigion gwrth-frenhinol a rhai yn ymwneud â hunanlywodraeth yn 2019.
Cafwyd y pedwar yn ddieuog yn sgil dyfarniad y mwyafrif o ddau draean.
Roedd erlynwyr yn dymuno i Torrent, Costa a Campdepadrós gael dirwy o 30,000 Ewro a gwaharddiad o fod mewn swydd gyhoeddus am ugain mis, yn ogystal â dirwy o 24,000 Ewro a gwaharddiad o 16 mis i Delgado.
Cerddodd Costa allan o’r llys ar ddechrau’r achos gan nad yw’n cydnabod awdurdod y llys.
‘Gwarchod rhyddid barn’
Yn ôl Roger Torrent, mae dyfarniad y llys yn “gwarchod rhyddid barn” ac yn gosod “cynsail” positif, ac mae “cyfiawnder wedi’i weithredu”.
Dywed y dylai gwleidyddion gael “hawliau gwleidyddol heb fygythiad parhaus o erlyniad”.
Yn ôl dyfarniad y llys, roedd yr unigolion yn ddieuog o anufudd-dod gan fod “diffyg mandad clir a phenodol” yn nyfarniad y Llys Cyfansoddiadol yn 2019.
Yn ôl dau allan o dri barnwr, roedd “lle i ddehongli” yn y dyfarniad oedd yn rhybuddio’r unigolion rhag bwrw ymlaen â dadleuon a phleidleisiau seneddol ar fater annibyniaeth a’r frenhiniaeth, a doedden nhw ddim yn credu bod yr unigolion yn ymwybodol o’r dyfarniadau blaenorol na’u bod nhw eisiau gweithredu’n groes iddyn nhw.
Datganiadau am y dyfodol oedd y datganiadau a’r pleidleisiau, meddai’r llys, a doedden nhw ddim yn arwydd o’r bwriad i weithredu ymhellach.
Ond roedd un barnwr o’r farn fod yr unigolion yn “ystyfnig” ac yn “ddyfal” yn eu hymgais i fwrw’r maen i’r wal ar annibyniaeth.
Cefndir
Cafodd y cynigion dan sylw eu derbyn ym mis Tachwedd 2019, a chafodd gwelliannau eu cyflwyno wythnos yn ddiweddarach a’u cefnogi gan bleidiau sydd o blaid annibyniaeth ac sydd â mwyafrif yn y senedd.
Roedd un cynnig yn nodi bod gwleidyddion yn gwrthwynebu’r frenhiniaeth, yn amddiffyn yr hawl i hunanlywodraeth ac yn cadarnhau sofraniaeth pobol Catalwnia i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.
Roedd ail gynnig yn cyhuddo Llys Cyfansoddiadol Sbaen o “sensoriaeth” ar fater hunanlywodraeth ac o feirniadu trafodaethau ar y frenhiniaeth.
Yn ystod dadl ar yr ail gynnig, cyhoeddodd plaid Ciutadans, sydd yn wrth-annibyniaeth, eu bod nhw am fynd at yr erlynwyr, gan gyhuddo gwleidyddion o blaid y cynigion o fod yn “bencampwyr anufudd-dod”.
Cafodd y cynnig ei wahardd yn rhannol gan y Llys Cyfansoddiadol yn 2019, gan rybuddio y gallai unigolion, gan gynnwys Roger Torrent oedd yn llefarydd ar y pryd, wynebu achos cyfreithiol.
Ond dywedodd Torrent yn gynharach eleni fod “y system farnwrol yn poeni mwy am geisio rhyddid nag o’i warchod”.
Pe bai’r pedwar yn euog o anafudd-dod, bydden nhw wedi cael eu diswyddo am eu rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth, yn yr un modd â’r cyn-Arlywydd Quim Torra ac aelodau’r cabinet fu’n galw am refferendwm yn 2017.