Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, wedi cael ei herio i gefnogi cynnwys “hawl i hunanbenderfyniad” i Gymru a’r Alban ym Mesur Hawliau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi gofyn am ymrwymiad ganddo yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi i’r Goruchaf Lys benderfynu’n unfrydol nad oes gan Lywodraeth yr Alban y grym i alw refferendwm annibyniaeth.
“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen ar y ffordd orau y gall democratiaeth yr ynysoedd hyn wasanaethu ein pobol, a phobol Cymru yn enwedig,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
“Ym mis Mehefin, gofynnais i’r Dirprwy Brif Weinidog a fyddai ei Fil Hawliau yn cynnwys yr hawl i hunanbenderfyniad. Ni roddodd ateb uniongyrchol i mi, felly dw i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol.
“A fydd o blaid cynnwys yr hawl i hunanbenderfyniad i bobol y gwledydd datganoledig o fewn y Bil Hawliau? Neu onid yw’n credu y dylai Cymru gael yr hawl i benderfynu ein tynged ein hunain?”
Atebodd David TC Davies drwy ddweud fod “Cymru wedi penderfynu ei thynged ei hun mewn sawl refferendwm yn ddiweddar, mae wedi penderfynu y byddai’n hoffi cael gweinyddiaeth ddatganoledig, sy’n rhywbeth y bydd y weinyddiaeth Geidwadol hon yn ei chefnogi’n llawn.
“Wrth gwrs, fe wnaeth Cymru, hefyd bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, rhywbeth yr oeddwn i’n ei gefnogi’n llawn, ond dydw i ddim yn hollol siŵr y gwnaeth hi na’i phlaid.
“Rwy’n llwyr barchu hunanbenderfyniad y Cymry i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n edrych ymlaen at ei chefnogaeth ar yr un honno yn y dyfodol.”
‘Parch a hunanbenderfyniad’
“Mae’r hawl i hunanbenderfyniad wedi ei nodi yn Erthygl 1 y cyfamod rhyngwladol ar hawliau sifil a gwleidyddol,” meddai Deidre Brock, Aelod Seneddol yr SNP.
“A fydd y Bil Hawliau Prydeinig arfaethedig yn cynnal hyn drwy sicrhau’r hawl i hunanbenderfyniad i bobol Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon?”
Dywedodd David TC Davies fod y Bil Hawliau “yn fater sydd wedi ei gadw ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.
“Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob amser yn parchu hawl gweinyddiaethau datganoledig i ddeddfu mewn meysydd y maen nhw’n gyfrifol amdanynt,” meddai.
“Byddwn yn tybio y bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn parchu hawl Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu mewn meysydd y maen nhw’n gyfrifol amdanynt.
“Dyna beth yw pwrpas parch a hunanbenderfyniad.”