Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar gynnig i godi’r premiwm treth cyngor ar ail dai i 150%.

Cafodd y cynnig ei wneud gan y Cynghorydd Ioan Thomas, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid, wedi i’r cyngor gynnal ymgynghoriad ar y mater.

O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd gan gynghorau sir y gallu i godi premiwm o hyd at 300% ar dreth cyngor ail dai.

Wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd gytuno i godi’r premiwm ar gyfer ail dai o 100% ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 22), bydd y cynnig yn mynd o flaen y Cyngor llawn fis Rhagfyr.

Cytunodd y cabinet i gynnig bod y premiwm ar dai gwag yn aros ar 100%.

Ddoe hefyd, penderfynodd Cabinet Cyngor Conwy godi premiwm o 50% ar ail gartrefi, tra bod Cyngor Powys wedi cytuno i gadw at eu penderfyniad i godi 75% o bremiwm.

‘Gwneud defnydd llawn’

Wrth ymateb i benderfyniadau’r tri chyngor, dywed Jeff Smith, cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, eu bod nhw’n parhau i bwyso ar gynghorau dros y wlad i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw.

“Er bod modd i gynghorau sir godi premiwm o hyd at 300% ar dreth y cyngor ar ail dai mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu codi 150%, er bod 8% o dai y sir yn ail dai ac y byddai arian y premiwm yn mynd at gynlluniau i atal a lleihau digartrefedd a helpu prynwyr tro cyntaf,” meddai.

“Ar yr un diwrnod penderfynodd cabinet Cyngor Conwy godi premiwm o ddim ond 50%, er bod bron i 3% o stoc tai y sir yn ail dai a bod y cyngor yno hefyd am roi arian y premiwm tuag at dai fforddiadwy.

“Bydd yn rhaid i Gyngor Llawn y ddau gyngor gadarnhau penderfyniad eu Cabinet yn yr wythnosau nesaf felly byddwn ni’n pwyso ar gynghorwyr i argymell cynyddu’r dreth yn y ddwy sir.

“Hefyd ar yr un diwrnod fe wnaeth cabinet Cyngor Powys gytuno i gadw at y penderfyniad a wnaeth ddechrau’r flwyddyn, cyn bod modd codi 300% o bremiwm, o godi 75% o bremiwm ar ail dai.

“Nid ail dai a thai gwyliau yw’r unig beth sy’n atal pobl ar gyflogau lleol rhag prynu cartref yn eu cymunedau ond byddwn ni’n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ar Ragfyr 17 i bwyso ar gynghorau ar draws Cymru i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â phroblem ail dai, yn ogystal â galw arnyn nhw i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn fydd yn rheoleiddio’r farchnad tai.”

Ystyried cynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 150% yng Ngwynedd

Bydd Aelod Cabinet Cyllid y Cyngor hefyd yn argymell bod unrhyw arian ychwanegol ddaw i’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â digartrefedd