Bydd datblygiad newydd yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn agor yn swyddogol heddiw (dydd Iau, Tachwedd 24).
Yn ogystal ag ardal breswyl newydd sy’n cynnig llety i 52 o bobol, mae Calon y Gwersyll yn cynnwys neuadd amlbwrpas a chanolfan ganolog, ardal fwyta a chegin newydd, ac ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd calon.
Fel rhan o’r cynllun uwchraddio, sy’n werth £6.1m, mae ardaloedd cymdeithasol i gefnogi dysgu yn yr awyr agored wedi cael eu datblygu yno, ynghyd ag ardaloedd gwaith i athrawon ac arweinwyr preswyl.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect datblygu cyfalaf gwerth £9.5m, wrth i’r Urdd uwchraddio cyfleusterau a gwasanaethu tair canolfan breswyl.
‘Cyfleoedd i fwy fyth o blant’
Yn ôl y mudiad, bydd y datblygiad yn eu galluogi i gynyddu cyfleoedd dysgu awyr agored a lles i blant dros Gymru, ac yn creu mwy o gyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol drwy’r Gymraeg.
“Mae dros ddwy filiwn o blant a phobol ifanc wedi aros yng nghanolfannau preswyl yr Urdd ers sefydlu’r Mudiad ganrif yn ôl,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Mae’r gwersylloedd wedi cynnig cyfleoedd cadarnhaol gan roi profiadau ac atgofion melys i genedlaethau o bobol ifanc yn y Gymraeg.
“Mae gwersylloedd yr Urdd yn annog hyder a thwf wrth i blant a phobol ifanc ddysgu sgiliau newydd, siarad Cymraeg a chwrdd â phobol newydd.”
Grant cyfalaf o £4.1m gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu Calon y Gwersyll yn bennaf.
“Mae’r grant gyfalaf, ynghyd â grantiau lleol eraill, wedi galluogi’r Urdd i foderneiddio ein cyfleusterau yn Llangrannog, Glan-llyn a Phentre Ifan,” meddai Siân Lewis wedyn.
“Mae’r buddsoddiadau hyn yn golygu y gallwn barhau i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fwy fyth o blant wrth i’r Mudiad edrych ymlaen at y 100 mlynedd nesaf o wasanaeth.”
‘Mwynhau a defnyddio’r Gymraeg’
Bydd y datblygiad newydd yn Llangrannog yn cael ei agor yn swyddogol gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.
“Mae’r Urdd wedi cynnig cyfleoedd unigryw i bobol ifanc mwynhau wrth ddefnyddio’r Gymraeg am 100 mlynedd,” meddai.
“Mae Calon y Gwersyll yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o bobol yn gallu elwa o brofiadau gwerthfawr yr Urdd.
“Rwyf hefyd yn falch bod y prosiect yn cefnogi uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn ehangu cyfleoedd addysgol yn yr awyr agored sydd hyd yn oed yn fwy pwysig yn sgil y pandemig.
“Rwy’n sicr bod gan lawer o bobol yng Nghymru atgofion gwych o ymweld â gwersyll Llangrannog, ac gydag ein cefnogaeth fel Llywodraeth, gall llawer mwy o blant edrych ymlaen at greu atgofion hefyd.”