Fe fydd Awstralia’n cryfhau’r gyfraith er mwyn gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yr Aborijini, yn ôl un o weinidogion y wlad.

Daw sylwadau Tanya Plibersek, Gweinidog yr Amgylchedd, yn dilyn adolygiad o safonau glofaol ar ôl i gwmni Rio Tinto ddinistrio Juukan Gorge, safle o bwys cenedlaethol, ddwy flynedd yn ôl.

Mae’r cwmni wedi osgoi cael eu cosbi’n llym ar ôl 16 mis o ymchwiliad, ar ôl i Plibersek a’r Prif Weinidog Anthony Albanese ddweud nad oedden nhw wedi torri’r gyfraith a bod yna bryderon nad yw’r system ar y cyfan yn gweithio.

Mae lle i gredu bod pobol yn byw yn Juukan Gorge 46,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod Oes yr Iâ, a bod dinistrio’r safle wedi achosi cryn niwed i’r bobol Puutu Kunti, Kurrama a Pinikura.

Mae’r perchnogion yn dweud eu bod nhw’n grac ac yn siomedig na chawson nhw wybod am ymateb y llywodraeth, ond mae’r buddsoddwr HESTA yn dweud y bydd argymhellion y llywodraeth yn gwella safonau ac yn lleihau’r perygl o gamreoli treftadaeth ddiwylliannol.

Mae’r llywodraeth wedi derbyn pob argymhelliad ond un yn dilyn ymchwiliad, ac maen nhw’n parhau i ystyried a ddylai cyfrifoldeb am warchod treftadaeth fod yn nwylo’r Gweinidog Materion Brodorol neu Weinidog yr Amgylchedd.

Ond dydy’r llywodraeth ddim wedi cefnogi’r argymhelliad y dylai Rio Tinto dalu iawndal, er bod pedwar aelod o staff, gan gynnwys y prif weithredwr, wedi cael eu diswyddo yn sgil yr helynt.

Mae’r sefyllfa hefyd wedi arwain cwmnïau eraill i adolygu eu cytundebau gyda pherchnogion safleoedd o bwys.

Mae Corfforaeth yr Aborijini PKKP yn dweud bod “y cyfan wedi dechrau wrth ddinistrio ein treftadaeth ddiwylliannol”, a’u bod nhw’n “gwybod beth sydd angen ei wneud” heb fanylu ymhellach.