Mae Llywodraeth Cymru’n cael eu hannog i ddarparu rhagor o gefnogaeth i bobol sydd â chŵn tywys.

Wrth siarad yn y Senedd, cyfeiriodd Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol, at y ffaith fod nifer o bobol sydd â chŵn tywys yn cael eu hatal rhag cael mynediad i fusnesau a gwasanaethau.

Soniodd hefyd am y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth gerdded ar y stryd.

“Roeddwn yn ffodus i gynnal y digwyddiad Cŵn Tywys yn y Senedd fis diwethaf,” meddai.

“Dangosodd ymchwil Cŵn Tywys a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf fod 81% o berchnogion cŵn tywys a ymatebodd i’w harolwg wedi cael eu gwrthod yn anghyfreithlon gan fusnes neu wasanaeth am eu bod nhw yno gyda’u cŵn tywys.

“Maen nhw wedi lansio’r hyn maen nhw wedi’i alw’n ymgyrch ‘Drysau Agored’ yn erbyn gwrthodiadau mynediad anghyfreithlon, i addysgu’r cyhoedd a busnesau, ac i godi ymwybyddiaeth o sut mae gwrthod mynediad yn effeithio ar berchnogion cŵn tywys.

“Ond nid dyna’r unig rwystr mae pobol sydd â chŵn tywys yn ei wynebu.

“Mae Cŵn Tywys Cymru hefyd yn dal i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel, gan ddweud bod llawer o gynlluniau wedi’u hariannu gydag arian ‘Teithio Llesol’ Llywodraeth Cymru ‘lle mae llwybrau beicio yn cael eu gosod ar droedffyrdd heb unrhyw linell glir rhwng y lôn feicio a’r llwybr troed i gerddwyr’.

“Sut fydd Llywodraeth Cymru felly nid yn unig yn cefnogi ymgyrch Drysau Agored Cŵn Tywys, ond hefyd yn ymateb i’w galwad i gyflwyno gwiriadau llawer mwy cadarn cyn dyrannu cyllid ar gyfer llwybrau Teithio Llesol newydd, er mwyn sicrhau bod pob llwybr newydd yn ddiogel i bawb?”

‘Cefnogi ymgyrch Drysau Agored’

Dywedodd y Trefnydd Lesley Griffiths, ar ran ac yn absenoldeb y Prif Weinidog Mark Drakeford, fod “Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgyrch Drysau Agored Cŵn Tywys Cymru yn llawn, ac yn annog pob busnes i gydymffurfio’n llawn â’r gyfraith”.

“O ran strydoedd mwy diogel, byddaf yn sicr yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch y monitro mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â hyn a’r ffordd y caiff cynlluniau eu hasesu mewn perthynas â Theithio Llesol, ac os yw’n credu ei fod yn ddigon cadarn.”