Does dim coed wedi cael eu plannu ar 80% o’r tir mae Llywodraeth Cymru ei brynu er mwyn creu coedwigoedd newydd, yn ôl ystadegau newydd.
Mae ystadegau Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi cael eu datgelu gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn dangos bod tua 152,000 o goed wedi cael eu plannu ar 61.36 hectar.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi prynu 302 hectar am gyfanswm o £3.5m, ac mae’n “rhwystredig” bod miliynau o bunnoedd wedi cael ei wario a’r tir yn wag, medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y coed sydd wedi’u plannu wedi haneru rhwng 2020/21 a 2021/22.
“Mae yna uchelgais mawr gan gymdeithas Cymru i gyd i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, ond rydyn ni’n gwybod nad ydy hynny’n hawdd,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Er mai ond rhan fechan o’r datrysiad ydy plannu coed, gall fod yn ddadleuol os yw’n cymryd tir a allai gael ei defnydd gwell, ar gyfer tai neu ffermio, er enghraifft.
“Mae hi’n siom amlygu methiannau yn hytrach chynnydd yn ystod Wythnos yr Hinsawdd yng Nghymru, ond awn ni fyth yn ein blaenau os nad ydy’r Llywodraeth Lafur am weithredu o gywilydd hyd yn oed.”
Coed er cof am aelodau’r Wal Goch
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n annog cefnogwyr i blannu coed er cof am anwyliaid sydd ddim yn gallu gwylio’r wlad yng Nghwpan y Byd.
Mae’r cynllun ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Choed Cadw, yn cynnig coeden am ddim i bob aelwyd, neu gall cefnogwyr ddewis cael coeden wedi’i phlannu ar eu rhan.
Un sydd wedi manteisio ar y cynllun ydy Dan Tyte, sy’n plannu coeden er cof am ei ffrind Alun Porter.
“Yn 2007, aeth grŵp ohonom i Frankfurt i wylio Cymru’n chwarae,” meddai Dan Tyte.
“Fe wnaeth Dave Edwards chwarae am y tro cyntaf y diwrnod hwnnw wrth i ni ddal gafael ar y gêm a gorffen yn gyfartal yn erbyn yr Almaen.
“Fel yr arfer Cymreig, doedd y trip ddim am bêl-droed yn unig, ac fel ni gyd, fe wnaeth fy ffrind Alun fwynhau’r diwylliant a’r bwyd lleol, gan gynnwys apfelwein Frankfurt a bratwurst medr o hyd.
“Naw mlynedd wedyn, roedden ni’n chwarae’r gêm gyntaf mewn pencampwriaeth fawr yn fy oes i.
“Roedd Dave Edwards yna’r diwrnod hwnnw hefyd, yn barod yng nghanol cae yn erbyn Slovakia, ond doedd fy ffrind Alun methu bod yno.
“Yn anffodus, bu farw gyda chanser yn 2013.
“Fe fyddai wedi bod wrth ei fodd yn Bordeaux y diwrnod hwnnw, ac mae’r un yn wir am Qatar.
“Mae’n deimlad arbennig iawn gallu gwneud rhywbeth i’w gofio drwy blannu coeden er cof amdano yn y goedwig genedlaethol.”
‘Helpu cynaliadwyedd’
Ychwanega Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei fod yn “syniad hyfryd” plannu coeden er cof am anwyliaid sy’n methu gweld y wlad yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.
“Mae’n arbennig ac yn helpu cynaliadwyedd Cymru, a hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ynghyd â heddiw,” meddai.
“Bydd y coed hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byddan nhw o gwmpas am sawl Cwpan y Byd arall.
“Mae hi’n etifeddiaeth wych i’w gadael.”
‘Safleoedd newydd’
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y gwaith o gynnal Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, ac wrth ymateb dywedodd Miriam Jones-Walters, sy’n Uwch Gynghorydd Stiwardiaeth Tir gyda’r corff: “Newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yw dwy o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu ac mae angen i bob un ohonom sy’n gofalu am dir – boed hynny am y bwyd, y pren, neu unrhyw un o’r pethau gwych mae’n eu rhoi i ni – ymateb yn bendant i argyfyngau’r hinsawdd a natur.
“Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rydyn ni’n cyfrannu at greu coetiroedd mewn sawl ffordd. Gwneir hyn yn bennaf drwy alluogi’r broses o greu coetiroedd ar dir sy’n eiddo i eraill, drwy ein rôl yn dilysu cynlluniau Creu Coetir Glastir a thrwy Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer coedwigo.
“Mae’r 302 hectar yn cyfeirio at dir sydd wedi’i brynu fel rhan o’n rhaglen Creu Coetir, sy’n cymryd lle’r coetir a gollwyd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, er enghraifft oherwydd datblygiad ffermydd gwynt.
“Hyd yn hyn, rydyn ni wedi plannu 61 hectar, ar dri safle. Dydyn ni byth yn plannu 100% o safle oherwydd mae’n bwysig cynnal mannau agored mewn coetiroedd i alluogi bywyd gwyllt i ffynnu. Yn ogystal â hyn, coetiroedd Llynfi yw 69 hectar o’r 302 hectar a brynwyd, sef safle a blannwyd gan CNC yn 2015.
“Mae’r gweddill yn safleoedd newydd sydd wedi’u caffael o fewn y 12 mis diwethaf ac sydd yn ein rhaglen ar gyfer y tymor plannu hwn, sy’n digwydd rhwng Tachwedd ac Ebrill. Cyn plannu rydyn ni’n cynnal ymgynghoriad ar ein cynlluniau ar gyfer y safleoedd; mae hyn yn rhan bwysig o greu coetiroedd newydd.”