Dylid “parchu” dyfarniad y Goruchaf Lys fod angen i’r Alban geisio caniatâd San Steffan er mwyn cynnal ail refferendwm annibyniaeth, yn ôl David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Roedd yr SNP wedi gobeithio cynnal refferendwm y flwyddyn nesaf.
Dim ond 45% o Albanwyr oedd o blaid annibyniaeth yn y refferendwm cyntaf yn 2014, ond mae’r ffigwr yn nes o lawer at 50% y tro hwn, yn ôl polau piniwn niferus.
Roedd yr achos llys yn ymwneud â throsglwyddo pwerau sydd wedi’u cadw gan San Steffan i Holyrood fel pwerau datganoledig.
Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi bod yn dweud yn ystod y frwydr gyfreithiol y byddai’r SNP yn barod i sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf ar un polisi unigol, sef ennill annibyniaeth, pe baen nhw’n colli’r achos.
Yn ôl Senedd yr Alban, mae mwyafrif clir o aelodau o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth, os nad annibyniaeth ei hun, ac felly mae ganddyn nhw fandad i’w gyflwyno.
Ond yn sgil y dyfarniad, mae’n ymddangos na fyddan nhw’n gallu gweithredu ar y mandad honedig hwnnw am y tro.
‘Ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth’
Dydy dyfarniad y Goruchaf Lys ddim wedi cael ei groesawu gan yr SNP na Phlaid Cymru, gyda Liz Saville Roberts yn cyhuddo San Steffan o “ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth”.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu’r hawl i hunanlywodraeth i’r holl wledydd datganoledig,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae’r cyfuniad o Lywodraeth Geidwadol wrth-ddemocrataidd a gwrthblaid Llafur fel ci sy’n nodio’i ben yn golygu na fydd ein lleisiau fyth yn bwysig tra ein bod ni wedi’n clymu i gyfundrefn San Steffan.
“Dylai hyn fod yn alwad i ddeffro i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, sy’n gweld y Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o bedair cenedl sy’n dewis cyfuno sofraniaeth.
“Dydy hynny’n amlwg ddim yn wir o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, a fydd hi ddim o dan Lywodraeth Lafur y dyfodol yn San Steffan.
“Mae Plaid Cymru’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn yn gadarn yr hawl i hunanlywodraeth heddiw.
“Rhaid i ni gyd sefyll yn unedig yn erbyn San Steffan, sy’n ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth.”
‘Croesawu’
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, yn “croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys” ac o’r farn ei bod hi’n bwysig ei “barchu”.
“Ar ddiwedd y dydd, mae’r dyfarniad wedi dod allan o’r llys,” meddai wrth golwg360.
“Mae hi’n bwysig bod pob un ohonom ni’n parchu dyfarniad llysoedd y wlad yma.
“Dw i’n cofio ychydig o flynyddoedd yn ôl, pan gollodd Boris Johnson ddyfarniad yn y Goruchaf Lys, Aelodau’r SNP oedd y cyntaf i ddweud pa mor bwysig yw dilyn dyfarniadau’r llys.
“Ydy, mae hi’n bwysig. A dw i’n gobeithio fod yr SNP yn dal i gytuno.
“Rydyn ni wedi cael refferendwm yr Alban ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae pobol yr Alban wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb.
“Dw i’n croesawu hynny, dw i’n credu y byddai’n brifo pob un ohonom ni pe baen ni’n colli’r Alban, mae’r Alban yn le arbennig o dda.
“Fe fyddai’n drist pe bai myfyrwyr yr Alban ddim yn gallu dod i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr a Chymru a’r ffordd arall rownd, neu’n gallu gweithio yn Llundain a ni ddim â’r hawl i weithio yng Nghaeredin.
“Fe fyddai hynny yn drist iawn, ond fe fydd hynny yn digwydd os yw’r Alban yn gadael yr Undeb.
“Felly dw i’n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau gweithio gyda’r SNP a Llywodraeth yr Alban, fel yr ydyn ni gyda Llywodraeth Cymru.
“Ac er ein bod ni ddim yn cytuno ar bopeth, fe allwn ni gytuno ei bod hi’n bwysig denu buddsoddwyr i’r Alban.
“Rydyn ni’n gallu cytuno ar lawer iawn o bethau, felly gobeithio y bydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn y dyfarniad ac yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi safonau byw pobol yr Alban.”
‘Fe wnes i bleidleisio yn erbyn y Cynulliad’
Un o ddadleuon yr SNP o blaid cynnal ail refferendwm yw’r ffaith fod Brexit wedi golygu newid sylfaenol i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae’r ffaith i’r Alban bleidleisio yn erbyn Brexit yn cyfiawnhau rhoi pleidlais arall i bobol yr Alban aros yn rhan o’r Undeb neu beidio.
Fodd bynnag, dydy David TC Davies ddim yn credu bod hynny yn cyfiawnhau ail refferendwm gan fod “pobol yr Alban wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb” eisoes.
“Ylwch, mae Brexit wedi creu ychydig o raniadau ledled y wlad,” meddai.
“Ond dw i’n meddwl bod y mwyafrif o bobol yn derbyn bod poblogaeth Prydain wedi pleidleisio o blaid Brexit a’i bod hi’n bwysig parchu hynny.
“Fe wnes i bleidleisio yn erbyn y Cynulliad yn ôl yn 1999, ond dw i’n hollol gefnogol o’r ffaith fod y Cynulliad wedi cael ei sefydlu trwy bleidlais ddemocrataidd.
“Mae’n rhaid i mi dderbyn hynny, a dw i’n hapus i dderbyn hynny.
“Mae pobol yr Alban wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb, ac mae’n bwysig bod pob un ohonom ni yn parchu hynny hefyd.”