Roedd crefftwr ddechreuodd engrafu ar lechen yn ystod y cyfnod clo ymhlith y rhai fu’n gwerthu eu nwyddau yn y farchnad Nadolig gyntaf yn Galeri Caernarfon ers y pandemig, y penwythnos diwethaf.

Cafodd y farchnad ei chynnal ddydd Sul (Tachwedd 20), a hynny am y tro cyntaf ers 2019.

Mae Alun Davies o Fethesda yn creu crefftwaith gan ddefnyddio peiriant laser carbon deuocsid i engrafu ar lechi lleol.

Mae’n bosib torri siapiau plastig, pren a deunyddiau gwahanol, ond mae’n defnyddio llechi yn bennaf, ac mae hefyd yn gwneud addurniadau Nadolig allan o bren.

Ond mae’n dweud bod digwyddiadau’n dawelach nag yr oedden nhw cyn y pandemig Covid-19.

“Roeddwn yn siarad efo llawer o bobol, a hyd yn oed ym marchnad Ogwen, doedd yna ddim gymaint o bobol i weld o gwmpas.

“Mae argyfwng costau byw yn siŵr o effeithio ar bobol.

“Mae pobol yn meddwl mwy am wresogi eu tŷ yn lle prynu rhyw bethau llechi dwi’n eu gwneud.

“Wnes i siarad efo llawer o bobol nad oeddwn wedi siarad efo nhw o’r blaen.

“Mae pobol yn falch o fod allan, ac mae pobol yn cael cyfarfod pobol eraill.

“Wnes i weld pobol nad oeddwn wedi’u gweld ers blynyddoedd yno.”

Dechrau yn y cyfnod clo

Yn ystod y cyfnod clo wnaeth Alun Davies ddechrau gweithio gyda llechi, ond beth oedd ei ysbrydoliaeth?

“Roedd gennyf hen lechi to yn yr ardd,” meddai.

“Roeddwn wedi tynnu darn bach o do i ffwrdd oddi wrth y sied ac roedd gennyf hen lechi.

“Roeddwn yn meddwl, ‘Duw be fedra’i wneud efo rhain?’

“Felly fel hynny wnes i ddechrau.

“Roeddwn yn rhoi penillion am Fethesda fel ‘Ffarwel i Gwm Pen Llafar’ a phethau felly.

“Roeddwn yn teimlo bod o’n rhywbeth addas i wneud efo’r deunyddiau lleol.

“Wnes i ddechrau gwneud clociau wedyn, roeddwn yn gwneud clociau i blant. Efo pren roeddwn yn gwneud y rheini.

 

“Roeddwn yn gwneud clociau i blant ddysgu dweud faint o’r gloch oedd hi.

“Roedd y rhieni wrth eu bodd efo rheini oherwydd bo nhw’n dweud bod plant ddim yn gwybod sut i ddweud faint o’r gloch ydi hi dim mwy oherwydd mae pethau’n ddigidol.

“Wnes i feddwl y byddwn yn hoffi gwneud mwy o bethau Cymraeg ar lechan Gymreig.

“Dyna pam dwi wedi gwneud clociau Cymraeg yn defnyddio llechi chwarel y Penrhyn.

“Rwy’ wedi prynu’r llechi o’r Felin Fawr.

“Rhywbeth i gadw fi fynd yn ystod y cyfnod clo oedd yn y dechrau, roeddwn yn gwneud pethau i ffrindiau.

“Wnes i wneud pethau yn y dechrau i hel pres i Blas Ogwen. Mae o wedi tyfu o fan’na.

“Rwy wrth fy modd yn dylunio pethau a chael bod ychydig bach yn greadigol.

“Maen nhw’n bethau sy’n apelio at bobol, maen nhw’n bresantau handi i roi i bobol, maen nhw’n bethau unigryw oherwydd ei bod yn lechan leol a bod o yn yr iaith Gymraeg.”

Y daith i fod yn grefftwr

“Roeddwn wedi prynu hen beiriant blynyddoedd yn ôl,” meddai, gan egluro sut yr aeth ati i ddod yn grefftwr.

“Rwy’n gyn-athro Dylunio a Thechnoleg.

“Ar ôl rhoi’r gorau i weithio, roeddwn wedi cymryd diddordeb yn y peiriannau yma, ond wedi gwneud ers bod yn hogyn ifanc.

“Wedyn roeddwn wedi gweld y peth defnyddio laser yma. Wnes i brynu hen un cyn y cyfnod clo.

“Doeddwn i byth yn ei defnyddio hi oherwydd nad oeddwn yn siŵr beth i’w wneud efo hi ac roeddwn yn cael trafferth cael hi i weithio yn iawn.

“Pan ddaeth y cyfnod clo, wnes i feddwl, wna’i edrych ar hon yn iawn a wnes i ddechrau gwneud rhyw bethau.

“Roeddwn yn ffeindio bod y peiriant wedi gwisgo.

“Wnes i benderfynu os dwi am wneud rhywbeth efo hwn wna’i brynu peiriant newydd.

“Wnes i brynu peiriant o dde Cymru, mae hi gennym ni rŵan ers jest dros flwyddyn a hanner.

“Rwy wrth fy modd yn cael gwneud gwahanol bethau.”

Llechi lleol

Mae Alun Davies yn creu cynnyrch gwreiddiol iawn, gan ei fod yn defnyddio llechi lleol, ac mae’n dweud bod y llechi o Benrhyn at ddant ei gwsmeriaid.

“Dydyn nhw ddim yn llechi o Sbaen neu Tsieina, llechi lleol ydyn nhw,” meddai.

“Nid wyf yn dod â phethau mewn o’r tu allan.

“Rwy’n defnyddio deunyddiau sydd yn yr ardal yn barod, ti ddim yn gorfod cael pethau wedi’u postio ata chdi.

“Mae pobol yn licio prynu cynnyrch lleol.

“Mae defnyddio deunyddiau lleol yn bwysig achos bo chdi’n defnyddio adnoddau sydd ar dy stepen drws.

“Rwy’n gwybod yn y byd crefft llechi mae lot fawr o bobol yn defnyddio llechi sy’n dod o Tsieina oherwydd bo nhw’n gwerthu nhw yn rhad ar ebay neu Amazon neu rywbeth felly.

“Os ti’n byw mewn tref yn Lloegr, does gennyt ti ddim dewis.

“Ti ddim yn mynd i wneud gwaith ymchwil ar ba lechi sydd ar gael yng ngogledd Cymru.”

Os yw’r llechi yn plesio’i gwsmeriaid, mae’r ardal lle maen nhw’n dod hefyd at ddant Alun Davies yntau.

“Rwy’n edrych ar y chwarel bob diwrnod o’r tŷ,” meddai.

“Rydym yn byw mewn ardal hanesyddol sy’n ymwneud â chwarel y Penrhyn.

“Rwy’n siŵr bod pobol Bethesda, pobol yr ardal, ti’n sôn am Ddyffryn Nantlle a Llanberis, maen nhw i gyd yn gwybod am lechi lleol.”

Personoleiddio

Mae Alun Davies hefyd yn creu cynnyrch sy’n cael ei bersonoleiddio.

“Gan bo fi’n gwneud pethau wedi eu personoleiddio, roedd pobol yn gofyn ‘Fedri di wneud hyn neu hwn?’ meddai.

“Y pleser mwyaf rwy’n cael allan o wneud hyn ydi bod pobol yn mwynhau beth rwy’n gwneud.

“Er enghraifft, ges i archeb neithiwr i wneud llechan efo Cwm Pen Llafar.

“Rwy’n rhoi sgets rwy’ wedi’i wneud o Gwm Pen Llafar ar y llechan.

“Rwy’n cael mwynhad o’i wneud o, ac rwy’n cael mwynhad bod pobol sydd yn eu prynu nhw yn edrych arnyn nhw.”

Mae hefyd yn aelod o Gôr y Penrhyn, ac fe gafodd y cyfle i gyfuno dau o’i ddiddordebau’n ddiweddar.

“Aeth y côr i Aberteifi penwythnos dwytha,” meddai.

“Doeddwn methu mynd digwydd bod ond er mwyn trio nodi bod côr Penrhyn wedi bod lawr yn ardal Aberteifi, gwnes i gloc efo logo’r côr arno fo fel bod o’n anrheg byswn i’n medru rhoi i’r côr arall roeddem yn canu efo nhw.

“Y noson yna hefyd, bu gwraig Dic Jones y bardd yno ac roedd un o’r hogiau fan hyn efo cysylltiad efo’r ardal.

“Gwnes i englyn roedd Dic Jones wedi’i sgwennu am gorau yn gyffredinol.

“Wnes i ysgathru hwnna ar lechan.

“Gwnaethon nhw gyflwyno y llechan i wraig Dic Jones.

“Mae’n rhoi pleser i mi, oherwydd rwyt ti wedi gwneud rhywbeth arbennig.

“Rwy’ wrth fy modd pan mae pobol yn cysylltu efo fi yn dweud bo nhw eisiau i mi wneud rhywbeth personol iddyn nhw neu rywun arall, ac nid yn gwneud o am y pres.”

Os oes gennych chi ddiddordeb yng ngwaith Alun Davies, mae modd cysylltu ar Facebook (Alun Davies) neu drwy e-bostio alunpenrallt@gmail.com neu ffonio 07761610808