Mae adolygiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i lofruddiaeth Logan Mwangi wedi canfod cyfres o fethiannau.
Yn Llys y Goron Caerdydd fis Mehefin, cafodd ei fam Angharad Williamson, ei lystad John Cole a Craig Mulligan, bachgen yn ei arddegau, eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio’r bachgen bach pump oed.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi dod o hyd i’w gorff o dan y dŵr, tua 250 metr o’i gartref.
Bu farw ar ôl ymosodiad “ciaidd” arno yn ei gartref, cyn i’w gorff gael ei roi yn afon Ogwr.
Roedd ei fam a’i lystad wedi ffonio’r heddlu gan honni ei fod wedi diflannu.
Roedd yr adolygiad yn ymchwilio i ymateb gwasanaethau cymdeithasol sir Pen-y-bont ar Ogwr, y cyngor, a’r awdurdodau iechyd ac addysg yn y misoedd cyn ei farwolaeth.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn nodi bod meysydd o arfer da wedi’u nodi o fewn amserlen yr adolygiad.
Un o argymhellion yr arolwg oedd y “dylai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gomisiynu adolygiad annibynnol o’i ymarfer a’i reolaeth o nodi ac ymchwilio i anafiadau ymhlith plant a phobol ifainc nad ydyn nhw’n ddamweiniol”.
“Dylai’r adolygiad annibynnol wneud argymhellion ynghylch sut mae’r bwrdd iechyd yn datblygu systemau uwchgyfeirio a sicrhau ansawdd sy’n sefydlu ac yn cynnal unrhyw ddysgu ymarfer,” meddai’r adroddiad.
Ond ar adeg cwblhau’r adolygiad, roedd y panel yn gwybod fod adolygiad annibynnol yn cael ei gomisiynu.
Argymhelliad arall oedd y “dylai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sicrhau bod ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobol ifainc ddeall eu rolau wrth nodi pryderon diogelu a’u dyletswydd i adrodd”.
“Mae angen system ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys rhaglenni hyfforddi diogelu ar draws pob rôl ymarfer iechyd,” meddai.
“Dylid adrodd ar gydymffurfiaeth yn flynyddol i Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.”
Ar lefel genedlaethol, un argymhelliad oedd y “gofynnir i Fwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru gynnwys canllawiau penodol i ymarferwyr amddiffyn plant am eu dyletswydd i hysbysu a chynnwys pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant mewn asesiadau a phrosesau amddiffyn plant.”
Dywedon nhw hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu “adolygiad Cymru gyfan o ddulliau o gynnal cynadleddau amddiffyn plant i nodi dulliau cadeirio/hwyluso effeithiol, ffyrdd o sicrhau presenoldeb a chyfranogiad amlasiantaeth llawn ac i nodi arfer gorau”.
“Dylid canolbwyntio ar sut mae cynnydd yn cael ei fesur er mwyn llywio penderfyniadau aml- asiantaeth gan ailosod y broses yn glir ar ôl codi cyfyngiadau Covid 19,” meddai.
Ymchwil
Datgelodd ymchwil gan y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar fod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario £1,147,354 ar weithwyr cymdeithasol asiantaeth yn y flwyddyn gafodd Logan Mwangi ei ladd.
Mae’r blaid yn dadlau bod angen staff parhaol i adeiladu perthynas â theuluoedd ac arsylwi achosion dros gyfnod o amser.
Un o ganfyddiadau’r adroddiad oedd, “Er mwyn deall deinameg y teulu yn gadarn, mae angen i ymarferwyr gael digon o amser i gynnal sesiynau asesu, cyfle i gynnal sesiynau arsylwi a digon o amser i fyfyrio a dadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd… [Roedd] absenoldeb staffio profiadol cyson ar draws asiantaethau”.
Yn ôl ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, roedd 376 o weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio i asiantaethau yn cael eu cyflogi gan gynghorau Cymru’r llynedd, a’r gost yn £20,423,189.
Roedd hynny’n gynnydd o 365 a £18,522,072 yn 2020/21, a chynnydd o 279 a £16,149,980 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Eisoes ers mis Ebrill eleni, mae £1.8m wedi’i wario ar 143 o staff o’r fath, ond mae’r gost yn debygol o fod yn llawer uwch na hyn dros gyfnod o flwyddyn gyfan.
Galw am adolygiad Cymru gyfan
“Roedd yr hyn a ddigwyddodd i Logan yn drasiedi na ddylai byth fod wedi digwydd ac a allai fod wedi cael ei hatal pe bai’r methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn yn cael eu hosgoi,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Nid yn unig rydym yn gweld amharodrwydd i ddwysáu sefyllfa Logan yn wyneb tystiolaeth amlwg ac asiantaethau sy’n gweithio mewn seilos, peidio rhannu gwybodaeth, ond mae adrannau heb ddigon o staff sy’n profi ein pryderon am ddibyniaeth uchel ar weithwyr asiantaeth sy’n arwain at achosion fel hyn yn cael eu cyfiawnhau.
“Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y Cyngor yn gyflym i feio Covid am rai o’i ddiffygion, ond mae’n awgrymu nad oedd canllawiau’r Llywodraeth Lafur yn ddigon clir nac ymatebol i ganiatáu i weithwyr cymdeithasol ddiogelu plant bregus yn iawn yn ystod y pandemig.
“Mae’n amlwg, yn ogystal â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, bod angen adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau plant y mae Mark Drakeford, yn anffodus, yn parhau i rwystro, er mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd ddim yn cynnal un a bod ganddi’r gyfradd uchaf yn y DU o blant sy’n derbyn gofal.”