Bydd Gordon Brown, cyn-Brif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, yn datgelu cynllun ei blaid ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig – lle mae disgwyl iddo gynnwys mwy o ddatganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – yn gynnar fis nesaf.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, dderbyn y cynigion yn y cynllun sydd wedi bod yn destun trafod mewnol o fewn arweinyddiaeth y blaid dros yr haf.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys datganoli pwerau economaidd sylweddol newydd i ranbarthau Lloegr.
Yr wythnos hon, datgelodd Syr Keir Starmer mai rhan o’r cynllun oedd diddymu Tŷ’r Arglwyddi a gosod siambr etholedig yn ei lle sy’n “wir gynrychioliadol” o wahanol genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Wrth siarad yn y Senedd fis diwethaf, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai cynllun Gordon Brown yn “gwreiddio datganoli fel na ellir ei rolio’n ôl yn y ffordd rydyn ni wedi’i weld ers 2019”.
Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd Gordon Brown yn “gwreiddio datganoli fel na ellir eu rholio’n ôl yn y ffordd rydyn ni wedi’i weld ers 2019”.
“Dw i’n meddwl bod yna gyfres o ffyrdd ymarferol y gellir gwneud hynny a phan fydd adroddiad Gordon Brown ar drefniadau’r Deyrnas Unedig ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyhoeddi, dw i’n meddwl y gwelwn ni nifer o’r syniadau ymarferol hynny.
“Dydw i ddim yn mynd i awgrymu beth yw’r rhain y prynhawn yma, ond maen nhw yno.”