A hithau’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 24), mae gofalwyr o Lanrug ger Caernarfon yn galw am gymorth iechyd meddwl am ddim i bob gofalwr yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Transylvania yn Rwmania ond bellach wedi ymgartrefu yn Llanrug, dechreuodd Boglárka-Tunde Incze weithio fel gofalwr yn ystod Covid.
Er ei bod hi’n mwynhau ei gwaith ac yn ddiweddar wedi’i enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, mae hi’n teimlo pwysau cynyddol yn ei swydd.
Mae hi’n teimlo nad yw cymorth ar gyfer iechyd meddwl wastad ar gael yn hawdd i ofalwyr, a bod angen newid yn y sector fel bod neb yn cyrraedd y pwynt o fod angen chwilio am gymorth.
O farchnata digidol i ofalu
Symudodd Boglárka-Tunde Incze o waith marchnata digidol i ofalu yn ystod Covid, a hynny’n ran amser.
Yn fuan iawn, buodd hi’n gweithio wythnosau 60 i 80 awr ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’i gwaith.
Ond sylweddolodd ei bod hi’n anodd canfod ym mle roedd modd derbyn cymorth iechyd meddwl, ac nad oedd y cymorth wastad ar gael am ddim.
Bu’n rhaid iddi fynd trwy ei meddyg teulu a disgwyl am gymorth.
Byddai’n hoffi gweld mwy o sgwrs rhwng y Llywodraeth a chwmnïau gofal iechyd gyda’r gofalwyr.
“Dylai cymorth fod ar gael yn gynt, nid pan wyt ti i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn barod,” meddai wrth golwg360.
“Os ydyn ni i ffwrdd yn sâl, mae’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth yn colli allan.
“Mae atal ac ymyrryd yn bwysig iawn.
“Dwyt ti methu jest delio gyda’r broblem pan mae o wedi digwydd yn barod.
“Mae’n rhaid edrych ar ôl gofalwyr. Rydyn ni’n gweithio oriau hir, shifftiau nos, mae’n rhaid i ni edrych ar ôl ein plant a’n rhieni hŷn.
“Dylai fod gan bob aelod o staff fynediad at gwnsela am ddim gan gwmni sy’n gweithio gyda’r cwmni gofal.
“Dylai fod cyfarfodydd rheolaidd gyda chownselydd.
“Does gennym ni ddim mynediad i gymorth, neu dydyn ni ddim yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth.
“Rydyn ni’n delio â phoen pobol. Rydyn ni’n gweld pobol yn marw, ac weithiau mewn amgylchiadau trasig iawn.
“Ond does yna neb yn mynd i’r afael â hyn.”
Y broblem
Mae nifer o ffactorau yn ychwanegu at straen gweithwyr gofal, meddai Boglárka-Tunde Incze, gan gynnwys y ffaith nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu talu’n ddigonol am eu gwaith.
Dywed fod nifer o’i chydweithwyr wedi gadael y maes oherwydd hyn.
“Mae’r rhain yn ofalwyr arbennig sydd wedi eu hyfforddi ac efo pump i ddeg mlynedd o brofiad,” meddai.
“Maen nhw’n symud o gwmni i gwmni gan obeithio am dâl gwell.
“Mae rhai cwmnïau yn cynnig rhwng £11 a £12 yr awr, sydd yn barod yn llai nag mae Lidl yn talu eu staff, achos dydy gofalwyr yn aml ddim yn cael eu talu am eu hamser teithio.
“Dydi fy nghyflog prin yn uwch na’r isafswm cyflog cenedlaethol.
“Mae Lidl yn talu mwy am swydd sydd ddim angen gwybodaeth glinigol, lle does dim bywyd claf yn eu dwylo.
“Os dw i’n gwneud rhywbeth yn anghywir gall rhywun farw.
“Dw i wedi treulio lot o amser yn hyfforddi a dydi’r amser yna ddim yn cael ei dalu’n iawn am ei werth.”
Mae costau defnyddio’i char hefyd yn achosi straen iddi.
“Dw i’n meddwl dylai’r costau yma gael eu cynnwys yn rhywle neu fod car rwyt ti’n gallu’i fenthyg ar gyfer gwaith,” meddai.
“Mae fy yswiriant yn ddrytach gan fy mod i’n gyrru tua 15,000 mewn blwyddyn, ond fi sy’n gorfod talu am hynny.
“Yn enwedig yma yng ngogledd Cymru ble mae hi’n wledig, mae’n costio lot.
“Dw i’n mynd trwy set o deiars bob blwyddyn, lle mae fy ngŵr angen rhai newydd bob tair neu bedair blynedd.”