Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru’n cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn “fwy penderfynol o baratoi ar gyfer streic y nyrsys na cheisio osgoi’r streic honno yn y lle cyntaf”, gan ddweud bod y sefyllfa “wedi gadael ein nyrsys yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw unrhyw opsiwn arall ond streicio”.
Bydd nyrsys yng Nghymru’n streicio dros dâl ar ddydd Iau, Rhagfyr 15 ac eto ddydd Mawrth, Rhagfyr 20.
Cyhoeddodd Coleg Brenhinol y Nyrsys ar Dachwedd 9 fod staff nyrsio ym mhob bwrdd iechyd wedi pleidleisio dros weithredu’n ddiwydiannol, ond ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan wnaethon nhw ddim cyrraedd y trothwy o 50% o bleidleisiau posib yn cael eu bwrw.
“Mae Plaid Cymru yn sefyll gyda nyrsys, a holl weithwyr y sector cyhoeddus, sy’n brwydro am gyflog teg, triniaeth deg ac amodau gwaith diogel,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae methiant i gefnogi, gwobrwyo a chadw staff nyrsio yn ein Gwasanaeth Iechyd – sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Lafur Cymru – wedi gadael ein nyrsys yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw unrhyw opsiwn arall ond streicio.
“Tra bod yr argyfwng economaidd presennol wedi cael ei greu gan y Torïaid yn San Steffan, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i wneud cynnig cyflog gwell i nyrsys y Gwasanaeth Iechyd.
“Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi eto nad yw’r llywodraeth wedi chwilio pob dull a modd wrth ystyried sut i wneud i hyn ddigwydd, ac o leiaf dylent fod yn dod at y bwrdd ar gyfer trafodaethau cyflog.
“Wrth bleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru oedd yn gofyn iddyn nhw ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddynt i wella’r cynnig, dywedodd Llafur Cymru yn glir nad ydynt yn cymryd cyfrifoldeb am yr argyfwng hwn.
“Mewn gwirionedd, maen nhw’n fwy penderfynol o baratoi ar gyfer streic y nyrsys, na cheisio osgoi’r streic honno yn y lle cyntaf.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni’n deall pam bod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio’r ffordd wnaethon nhw ac rydym yn cytuno y dylai nyrsys gael eu gwobrwyo am eu gwaith pwysig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni hefyd yn cydnabod y dicter a’r siom y mae llawer o weithwyr y sector cyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd.
“Yng Nghymru rydyn ni’n gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol ac rydym yn parhau i gyfarfod yr undebau llafur yn rheolaidd i drafod ystod o faterion sy’n effeithio ar y gweithlu.
“Fodd bynnag, ni allwn gynyddu ein cynnig cyflog heb i gyllid ychwanegol fod ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Yn dilyn canlyniad y bleidlais, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a byrddau iechyd ar eu cynlluniau wrth gefn.
“Dylai’r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl y bydd trefniadau’n cael eu gwneud gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i sicrhau y bydd lefel ddiogel o staffio bob amser, gyda gofal achub bywyd a gofal cynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol.”