Bydd parcio am ddim yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar ôl 11yb bob dydd rhwng Rhagfyr 10 a 27, fel rhan o’r ymdrechion i gefnogi busnesau lleol ar drothwy’r Nadolig.

Mae’r Nadolig yn gyfnod sydd mor allweddol i’r sector siopau ac adloniant.

Ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ydi hwn.

Bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor, felly os nad oes nodyn i’w weld, dylech wirio os ydi o’n un o feysydd parcio’r Cyngor.

Bydd yn rhaid talu eto o Ragfyr 28, ac mae gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddanteithion sydd ar gael o lawer iawn o fusnesau Gwynedd i’w gweld drwy fynd i www.visitsnowdonia.info/cy/siopau-cynnyrch-lleol

“Rydan ni’n annog pobl i gefnogi’r busnesau bach sy’n asgwrn cefn canol ein trefi, yn lle mynd am dripiau siopa i’r dinasoedd mawr neu chwyddo coffrau’r corfforaethau mawr ar-lein,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd y Cyngor.

“Fe gofiwn fod llawer o fusnesau lleol wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’n cymunedau yn ystod y pandemig.

“Felly, os ydych chi’n chwilio am anrhegion arbennig, yn prynu bwyd a diod ar gyfer y tymor gwyliau neu’n paratoi at wledd i ddathlu – cofiwch am y cyfoeth o fusnesau bach a chrefftwyr yma yng Ngwynedd, a manteisiwch ar y parcio am ddim.”

Mae lleoliad holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/parcio