Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “un o’r cyllidebau anoddaf ers dechrau datganoli”.

Mae’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant a nodwyd yn y Gyllideb dair blynedd a gyhoeddwyd y llynedd.

Ynghyd â hynny, mae’r Gyllideb hefyd yn dyrannu’r £1.2bn o gyllid ychwanegol a ddaeth i Gymru drwy Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth, felly?

Mae £165m ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, tra bod £227m ychwanegol yn cael ei ddarparu i gynghorau ledled y wlad.

Mae’r cyllid hwn hefyd yn cyfrannu at y pecyn cymorth busnes dwy flynedd ehangach, sy’n werth £460m.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gymorth ar gyfer addysg gyda £28m ychwanegol ar gyfer y gyllideb addysg.

Mae’r swm llawn o £117m o gyllid canlyniadol ar gyfer gwariant ar addysg yn Natganiad yr Hydref wedi cael ei ddarparu i lywodraeth leol er mwyn ariannu ysgolion.

Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi ymateb dyngarol Cymru i’r rhyfel yn Wcráin, gyda £40m yn cael ei ddyrannu yn 2023-24 a £20m yn 2024-25.

Mae’r Gyllideb Ddrafft hefyd yn darparu £18.8m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n darparu taliadau arian parod mewn argyfwng i bobol sy’n wynebu caledi ariannol.

Yn y cyfamser, bydd £40m arall yn cael ei roi i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus.

“Penderfyniadau anodd”

“Mae hon yn gyllideb mewn cyfnod anodd a fydd yn rhoi gymaint o gymorth ag y gallwn i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

“Bydd hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol i’r rheini sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw ac yn cefnogi ein heconomi drwy’r dirwasgiad.

“Defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl yw’r nod. “Mae hyn yn golygu cydbwyso’r anghenion tymor byr sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw sy’n parhau, gyda’r angen parhaus i wneud newid ar gyfer y tymor hwy a chyflawni ein huchelgais yn y Rhaglen Lywodraethu i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

“Mae hon wedi bod yn un o’r cyllidebau anoddaf ers datganoli.

“Mae’n cael ei chyflwyno mewn cyfnod o ddirwasgiad pellach i economi’r Deyrnas Unedig, a hyn yn dilyn degawd o fesurau cyni, Brexit a’r pandemig.

“Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd ac mae costau ynni wedi cynyddu’n ddychrynllyd.

“Mae chwyddiant wedi erydu grym gwario ein cyllideb ond nid yw wedi effeithio ar ein huchelgais.

“Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i sicrhau bod ein holl adnoddau’n cael eu defnyddio i helpu i gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau drwy’r flwyddyn anodd sydd o’n blaenau.”

‘Ansicrwydd’ a ‘heriau sylweddol’

Mae Peredur Owen Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yn addo cwestiynu’r llywodraeth ynghylch sut fydd y Gyllideb Ddrafft yn lleddfu pwysau costau.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn dechrau ar eu gwaith craffu manwl ar y Gyllideb Ddrafft fory (dydd Mercher, Rhagfyr 14), trwy glywed tystiolaeth gan Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol, cyn cyhoeddi eu hadroddiad ar ddydd Llun, Chwefror 6.

Bydd pwyllgorau seneddol eraill hefyd yn cyhoeddi eu hadroddiadau ar effaith y Gyllideb Ddrafft ar eu cylchoedd gorchwyl ar yr un diwrnod.

“Mae’r ansicrwydd o ran y darlun cyllidol ac economaidd yn y Deyrnas Unedig wedi arwain at heriau sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth wneud ei pharatoadau ar gyfer y gyllideb, gyda safonau byw yn debygol o brofi’r cwymp mwyaf sydd erioed wedi’i gofnodi,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae’r Gweinidog wedi cyflwyno nifer o fesurau i gefnogi aelwydydd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i ddelio â’r argyfwng costau byw, y cynnydd mewn costau ynni ac effaith chwyddiant uchel.

“Bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r Gweinidog amddiffyn y penderfyniadau cyllido y mae wedi’u gwneud ac egluro sut y bydd y gyllideb hon yn lleddfu pwysau costau a lleihau niwed chwyddiant hanesyddol.”

Galw am “fwy o ffocws ar nifer o feysydd allweddol”

“Rydym yn croesawu’r newyddion heddiw am gyfraddau busnes,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dw i hefyd yn cydnabod yr anawsterau wrth osod y gyllideb hon o ystyried yr argyfwng yn yr economi sydd wedi’i achosi gan fethiant y Ceidwadwyr i gael gafael ar yr argyfwng ynni a chyllideb fechan drychinebus Liz Truss.

“Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, hoffwn weld mwy o ffocws ar nifer o feysydd allweddol.

“Tra fy mod i’n falch ynghylch peth o’r cynnydd a wnaed heddiw o ran iechyd a gofal cymdeithasol, rwy’n poeni na fydd yr hyn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn mynd yn ddigon pell er mwyn atal llif y bobol sy’n gadael y ddau broffesiwn, a dydyn ni ddim eto wedi gweld manyleb ynghylch sut fyddai’r arian hwn yn cael ei wario.

“Yn yr un modd, alla i ddim gweld unrhyw gynigion yn y gyllideb hon fydd yn gwneud tolc sylweddol wrth ddatrys yr argyfwng mewn deintyddiaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“A does dim cynigion manwl chwaith am raglen insiwleiddio brys, rhywbeth na fyddai ond yn helpu’r amgylchedd ond hefyd yn arbed arian i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a theuluoedd yn y pen draw.

“Hoffwn hefyd weld mwy o gefnogaeth i Lywodraeth Leol gael sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol maen nhw’n eu darparu yn gallu parhau.”

‘Rhaid gwneud mwy i warchod pobol Cymru’

Dywed Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod rhaid gwneud mwy i warchod pobol Cymru rhag effeithiau’r argyfwng costau byw sydd wedi’i achosi gan San Steffan.

Gan nodi’r argyfwng costau byw a’r cyfyngiadau ariannol ar Gymru o du San Steffan, dywed fod y Gyllideb Ddrafft yn “rhagor o brawf” nad yw’r setliad datganoli presennol yn gweithio er lles “pobol Cymru”.

Mae’n galw am ragor o bwerau ariannol cryfach fel bod modd i Lywodraeth Cymru warchod pobol Cymru rhag “camreolaeth gatastroffig” y Ceidwadwyr o economi’r Deyrnas Unedig.

Ond mae’n dweud y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r holl bwerau sydd wrth law i leihau’r pwysau ac i gefnogi “gwasanaethau cyhoeddus hanfodol”.

Mae hefyd yn croesawu gwarchod arian ar gyfer ymrwymiadau allweddol o fewn y Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i blant oedran cynradd, ac ehangu gofal plant rhag ac am ddim.

“Y tu ôl i bob ystadegyn poeni – gostyngiad tymor gwirioneddol estynedig mewn cyflogau, Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn crebachu, diweithdra cynyddol, y wasgfa barhaus fwyaf ar safonau byw ers canrifoedd – mae pobol sydd yn dioddef,” meddai.

“Dydy teuluoedd ddim bellach yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi na bwydo’u plant.

“Mae ein gwasanaeth iechyd ar dorri, gyda chleifion yn aros diwrnodau mewn unedau damweiniau ac achosion brys, a nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd.

“Mae pobol gyffredin sy’n gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn wyneb prisiau cynyddol a chyfraddau llog sy’n tynnu dŵr i’r llygaid.

“Dyma’r realiti milain y tu ôl i’r gyllideb ddrafft hon, ac mae’n ragor o dystiolaeth nad yw’r setliad datganoli presennol yn gweithio er lles pobol Cymru.”

Mae’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fethu â dirnad fod “camreolaeth gatastroffig” o’r economi “wedi tynnu Cymru i mewn i’r argyfwng hwn”.

“Heb bwerau cryfach dros ein heconomi a heb y gallu i osod bandiau treth penodol i Gymru sy’n adlewyrchu’n well yr hyn yw anghenion y genedl, bydd Cymru bob amser yn cael ei llusgo yn ôl mympwy San Steffan,” meddai wedyn.

“Tra bod pwerau Cymru’n gyfyng iawn, dydyn ni ddim yn hollol ddi-rym ac mae lifrau ar gael i Lywodraeth Cymru i leihau’r ergyd.

“Ar sawl achlysur, mae aelodau Plaid Cymru wedi crybwyll y pwerau i amrywio trethi sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r dreth incwm, a byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos y dylid eu hystyried o ddifri o fewn cyd-destun penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol.

“Tra ein bod ni’n cydnabod y sensitifrwydd sydd ynghlwm wrth gynyddu trethi, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw, dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod i gymryd camau dewr a radical i gynnal ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”

 

Cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofalwyr

Bydd Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru’n cynnwys cyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol