Mae Cyngor Conwy wedi penderfynu codi premiwm o 50% ar y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn y sir.

Bydd y newid yn dod i rym fis Ebrill 2023, a byddan nhw’n codi premiwm o 100% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o Ebrill 2024, cyn belled nad yw cynghorwyr yn newid eu meddyliau.

Mae’r premiwm wedi’i ddylunio i annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy ar gyfer eu prynu neu eu gosod mewn cymunedau lleol.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ei gynnal yng Nghonwy yn ystod yr haf, a gwahoddwyd pobol i fynegi safbwyntiau ar yr effaith y mae’r premiwm yn ei gael ar dwristiaeth, yr iaith Gymraeg a thai fforddiadwy hefyd.

Derbyniwyd dros 800 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau’r cyngor, eu bod nhw wedi cymryd yr amser i ystyried y “pwnc anodd” hwn.

“Mae’n bwysig hefyd nodi bod y cyllid o’r premiwm yn parhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi cyllideb Tai’r Cyngor sy’n wynebu pwysau cynyddol.”

‘Defnydd llawn’

Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i godi premiwm o 150% ar dreth cyngor ail dai, ond mae criw o gynghorwyr yn pryderu am ganlyniadau anfwriadol y cynnydd ar “y boblogaeth frodorol a’r Gymraeg”.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Powys gytuno i gadw at eu penderfyniad i godi 75% o bremiwm hefyd.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst yn Sir Conwy ddydd Sadwrn, Rhagfyr 17, ac mae’r mudiad yn parhau i bwyso ar gynghorau i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw.

O Ebrill 2023, bydd cynghorau lleol yn cael codi hyd at 300% o bremiwm treth cyngor ar ail dai ac eiddo gwag.

“Nid ail dai a thai gwyliau yw’r unig beth sy’n atal pobl ar gyflogau lleol rhag prynu cartref yn eu cymunedau ond byddwn ni’n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ar Ragfyr 17 i bwyso ar gynghorau ar draws Cymru i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â phroblem ail dai, yn ogystal â galw arnyn nhw i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn fydd yn rheoleiddio’r farchnad tai,” meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.