Mae’r ffaith nad oes “dim byd” yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru sy’n “trafod polisi datblygu economaidd” wedi cynddeiriogi’r economegydd Dr John Ball.
Wrth gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, ei bod yn “un o’r cyllidebau anoddaf ers dechrau datganoli”.
Ymhlith elfennau mwyaf arwyddocaol y gyllideb roedd dyrannu £165m ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Roedd £70m o gyllid hefyd ar gael i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i dderbyn ‘cyflog byw gwirioneddol’ – sef £10.90 yr awr – tan fis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Ymhlith blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru roedd darparu £227m ychwanegol i gynghorau ledled y wlad.
Roedd yna hefyd ragor o gymorth ar gyfer addysg yng Nghymru, gyda £28m ychwanegol i’r coffrau.
Ar ben hynny, mae’r swm llawn o £117m o gyllid canlyniadol ar gyfer gwariant ar addysg yn Natganiad Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael ei ddarparu i lywodraeth leol er mwyn ariannu ysgolion.
Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi ymateb dyngarol Cymru i’r rhyfel yn Wcráin, gyda £40m yn cael ei ddyrannu yn 2023-24 a £20m yn 2024-25.
Yn y cyfamser, bydd £40m arall yn cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Dal i ddisgwyl” am bolisi datblygu economaidd
“Does yna ddim byd y gallaf ei weld yn y gyllideb hon sy’n ymwneud ag ailadeiladu economi Cymru,” meddai Dr John Ball wrth golwg360.
“Mae faint o gefnogaeth sy’n cael ei roi i raglenni bwyd a’r math yna o beth yn fy mhoeni.
“Nawr, dw i’n llwyr dderbyn bod yna broblemau yng Nghymru ond dw i ddim yn sicr ai dyma’r math o beth y dylai’r Senedd ymwneud yn ormodol ag e.
“Fel economegydd, dw i’n credu bod yr angen am bethau megis rhaglenni cefnogaeth bwyd yn arwydd o economi sy’n methu.
“Ac fel dw i’n dweud, does yna ddim byd yn y gyllideb hon yn trafod polisi datblygu economaidd, dim byd.
“Mae gennym ni Senedd sy’n ariannu ei phobol ac fe fyddwn i’n dadlau bod y peth yn gywilyddus – fe fyddwn i’n defnyddio’r gair cywilyddus.
“Sut allwch chi weiddi a chwyno bod hwn yn gyllideb anodd pan fo gennym ni lefelau uwch o dlodi wrth ddarparu dim byd ond cymorthdaliadau – nad yw’n un o ddyletswyddau’r Senedd, gyda llaw – a dweud dim byd am ddatblygiad economaidd.
“Yr un pŵer datganoledig clir oedd gan y Senedd pan gafodd ei sefydlu yn 1999 oedd datblygiad economaidd.
“Fe gafodd pwerau Asiantaeth Datblygu Cymru, y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a phob math o dollau a phwerau eu trosglwyddo i’r Senedd.
“Ond dydyn nhw ddim wedi defnyddio’r un ohonyn nhw mewn 25 mlynedd.
“Dw i, fel economegydd, yn dal i ddisgwyl am gynllun datblygiad economaidd.
“Mae hi bellach yn chwarter canrif yn ddiweddarach, a dw i’n dal i ddisgwyl.”
‘Gwendid y setliad datganoledig’
Mae’r Gyllideb Ddrafft yn dyst i “wendid y setliad datganoledig”, yn ôl Dr John Ball.
“Does gan y Senedd ddim pwerau gwirioneddol i godi arian,” meddai.
“O ganlyniad, rydyn ni’n styc mewn sefyllfa lle mai’r hyn mae’n ei wneud yw jyglo’i chyllid.
“A dw i ddim yn sicr a yw’r peli cywir yn cael eu jyglo.”
‘Rhoi’r bai ar eraill’
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i wneud defnydd llawn o’r £1.2bn ychwanegol gafodd ei ddynodi iddyn nhw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Natganiad yr Hydref.
“Efallai y bydd Llafur yn trio dweud eu bod nhw’n ddi-rym a rhoi’r bai ar eraill, ond mae ganddyn nhw’r grymoedd ariannol a’r pŵer i wneud penderfyniadau,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y blaid.
“Mae angen i Lafur ddefnyddio’r cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu Cyllid sy’n cwrdd ag anghenion teuluoedd a busnesau.”
‘Delio â llanast San Steffan’
Cafodd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru “ei hysgogi gan yr angen i ddelio â llanast San Steffan”, yn ôl Plaid Cymru.
“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd cyllid y blaid.
“Efallai bod y pwerau cyllidol sydd gennym ni i ymateb i’r argyfwng hwn yn gyfyngedig, ond nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n ddi-rym fel gwlad.
“Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellid defnyddio pwerau amrywio trethi i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, gwella’r cynnig cyflog i weithwyr sector cyhoeddus, a helpu’r bobol sy’n dioddef fwyaf yn ystod yr argyfwng hwn.
“Rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn pobol rhag rhai effaith waethaf yr argyfwng economaidd hwn.”