Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud eu bod nhw “am weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau lleol yn parhau”.

Daw hyn wrth iddyn nhw rybuddio bod y twll du cyllidebol presennol o £784m “yn debygol o gynyddu fwyfwy mewn blynyddoedd i ddod”.

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi ei gwneud yn hollol glir y niwed sy’n cael ei wneud i gyllidebau cyngor oherwydd pwyseddau chwyddiant eithriadol a biliau ynni afresymol,” meddai Anthony Hunt, Cynghorydd Torfaen a llefarydd Cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan edrych ymlaen i’r setliad llywodraeth leol i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher (Rhagfyr 14).

“Yn eu tro, mae’r effeithiau ar ein cymunedau a thrigolion yn debygol o fod yn ddwys.

“Fel mae’n sefyll, mae gwasanaethau lleol yn wynebu twll du cyllidebol o £784m dim ond am y flwyddyn nesaf, sydd ond yn debygol o gynyddu fwyfwy mewn blynyddoedd i ddod.

“Wrth edrych tuag at setliad llywodraeth leol, rydyn ni’n gwerthfawrogi mai cyfyng yw pŵer ariannol Llywodraeth Cymru, a rydyn ni felly yn realistig am y posibilrwydd am ddatrysiad a fydd yn cwrdd â’r pwyseddau anferthol.

“Ond, fel sydd wedi ei arddangos mewn ymgysylltu clós a setliadau cyllidebol y gorffennol, rydyn ni hefyd yn gwybod am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n gwasanaethau lleol hanfodol sy’n cyfrannu cyn gymaint i’n cymunedau.

“Rydyn ni’n gobeithio’n arw i weld ymrwymiad, er yn anhebyg i gwrdd a’r bylchau cyllidebol anferthol, a fydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ein gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau.”