Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o wneud dewis gwleidyddol wrth beidio â chynnal trafodaethau â’r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau eraill er mwyn atal streic dros yr wythnosau i ddod.
Yn y Senedd, fe wnaeth yr arweinydd Andrew RT Davies ofyn i Mark Drakeford pam nad yw gweithwyr sy’n streicio wedi cael cynnig o’r newydd o gofio’r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru ym maes tâl ac amodau gwaith yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â threth.
Daw’r ffrae ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod dyn oedd wedi torri ei glun wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ddarn o bren yng nghefn fan, ar ôl i’w wyres gael gwybod nad oedd ambiwlans ar gael.
“Peidiwch â gadael i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd esgus nad eu dewis gwleidyddol eu hunain yw hyn,” meddai Andrew RT Davies, wrth ymateb i’r sefyllfa, gan gyhuddo Mark Drakeford o fod yn “hollol ffuantus” wrth ddweud nad oedd yn gallu gwneud unrhyw beth am sefyllfa sydd “wedi’i datganoli’n llwyr”.
“Pe bai Mark Drakeford wir eisiau gwella’r cynnig tâl, gallai ddefnyddio’r pwerau trethi sydd ganddo ar flaenau ei fysedd,” meddai.
“Gallai hefyd drafod amodau gwaith staff y Gwasanaeth Iechyd.
“Gadewch i ni beidio ag anghofio bod camreolaeth Llafur o’r Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod rhaid i staff a chleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gorfod delio â’r rhestrau aros hiraf am driniaeth, yr aros gwaethaf ar gyfer unedau damweiniau ac achosion brys, a’r ymateb arafaf ar gyfer ambiwlans ym Mhrydain.”
Ymateb
“Fe ddaw i lawr y Senedd yma pan fo’i Lywodraeth yn San Steffan wedi dod â chyfarfod â’r Coleg Nyrsio Brenhinol i ben yn fustlaidd neithiwr oherwydd eu bod nhw wedi gwrthod, fel y dywedodd arweinydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, yr un geiniog ar y bwrdd i gynyddu tâl nyrsys yn Lloegr, a fyddai wedi arwain, fel maen nhw’n gwybod, at swm canlyniadol Barnett y byddne ni wedi gallu ei ddefnyddio tuag at dâl yma yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Dyna’r unig ffordd y gallwn ni wella’r cynnig yma.
“Rydyn ni wedi’n clymu’n llwyr gan y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar dâl gan ei gydweithwyr yn San Steffan. Dyna le ddylai fod yn lobïo.
“Yr eiliad mae ei weinidogion yn barod i wella’r cynnig i nyrsys yn Lloegr, byddwn ni’n gallu gwneud y cynnig hwnnw yma yng Nghymru.
“Os yw e o ddifrif – alla i ddim dychmygu am eiliad na fyddai e – y dylen ni symud yr holl arian rydyn ni wedi’i dderbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ar gyfer tâl ond i’w fuddsoddi yng ngwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd, y dylen ni symud y cyfan oddi wrth gynnal y gwasanaeth ac i mewn i dâl, yna dylai ddweud hynny’n glir y prynhawn yma, oherwydd byddai gan bobol yng Nghymru ddiddordeb clywed hynny.”