Ar drothwy dwy streic gan nyrsys fis nesaf (Rhagfyr 15 a 20), mae golwg360 wedi clywed gan nyrs yn y Gwasanaeth Iechyd am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, ac mae hi’n dweud nad yw’r “gofal yn ddiogel”.
Bydd nyrsys ar draws y Deyrnas Unedig yn streicio yn sgil cyflogau isel, eu hamodau gwaith a’u pensiynau.
Fydd apwyntiadau brys ddim yn cael eu gohirio yn yr un modd â gwasanaethau eraill.
Mae’r nyrs, sydd eisiau aros yn ddienw, yn dweud bod ganddi “deimladau cymysg” am y streic, a’i bod hi’n teimlo nad yw staff “yn cael eu gwerthfawrogi”.
“Rwy’n meddwl y dylai’r Llywodraeth gael mwy o barch at y gwaith rydym yn ei wneud a’r anawsterau a wynebir,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed heb frêc iawn.
“Mae’r rhan fwyaf o nyrsys yn rhoi’r cleifion yn gyntaf.
“Mae’n amgylchedd llawn straen a phrysur.
“Dwi’n meddwl ein bod ni’n haeddu gwell cyflog.
“Rwy’n cytuno â’r streic nyrsio i raddau. Mae’n anodd oherwydd dydych chi ddim eisiau peryglu iechyd pobol.
“Mae cyflogau wedi codi cyn lleied o flwyddyn i flwyddyn fel nad oes gan nyrsys lawer o ddewis, ond rwy’n credu y dylid cynnal y streic mewn ffordd sy’n lleihau’r niwed i gleifion.
“Efallai y bydd yn rhaid i’r bobol sydd wedi bod yn aros am amser hir am lawdriniaeth aros yn hirach.”
“Anodd” rhoi gofal i gleifion
Mae hi’n anodd i nyrsys ond beth am y bobol fwyaf bregus, sef y cleifion?
“Mae amodau yn yr NHS yn ei wneud yn anodd i ni roi’r gofal mae cleifion yn ei haeddu iddyn nhw,” meddai’r nyrs wedyn.
“Rwy’n meddwl bod nyrsys sydd newydd gymhwyso yn arbennig o dan lawer o straen oherwydd nad ydyn nhw wedi arfer cael deg claf i un nyrs.
“Mae’n amhosib darparu gofal o safon iddyn nhw, ac mae hefyd yn beryglus. Mae hefyd yn beryglus i nyrsys.”
Mae’n dweud bod y pwysau’n debygol o arwain at gymaint o straen nes bod camgymeriadau’n cael eu gwneud, gan roi cleifion mewn perygl.
“Mae corff proffesiynol yn eich rheoleiddio os byddwch yn gwneud rhywbeth o’i le, yna gallan nhw ymchwilio a chymryd eich pin i ffwrdd,” meddai.
“Mae camgymeriadau yn digwydd pan fydd pobol yn gweithio’n galed, ac yn brysur iawn.
“Dydw i ddim yn meddwl bod y gofal yn ddiogel.”
Llywodraeth Cymru’n “fwy penderfynol o baratoi ar gyfer streic y nyrsys na cheisio osgoi’r streic honno yn y lle cyntaf”
“Mae’r alwad yn glir gan nyrsys – mater i’r Llywodraeth yw profi eu bod nhw’n gwrando”