Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd i fynegi pryderon am dactegau “gelyniaethus” yn erbyn perchnogion ail gartrefi’r ardal.
Fe ddaeth i’r amlwg fod posteri ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ wedi’u rhoi ar dai gan ymgyrchwyr sydd eisiau codi’r premiwm treth cyngor ar ail dai.
Daw’r pryderon mewn llythyr gan Janet Finch-Saunders, llefarydd tai’r Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dweud mai’r “peth diwethaf sydd ei angen arnom yw i hyn gynyddu i’r hyn welson ni Feibion Glyndwr yn ei wneud yn y 1980au”.
“Tra bod y rhwystredigaeth fod prisiau tai yn codi yn yr ardal, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i bobol leol brynu eiddo, yn ddilys, yr ateb yw adeiladu mwy o dai, nid tresmasu a difrodi eiddo preifat gyda deunydd ymgyrchu ymosodol,” meddai.
“Dyna pam dw i wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Heddlu – fel y gallwn ni sicrhau bod y gyfraith yn cael ei chynnal a bod protestiadau’n parhau’n heddychlon a chyfreithiol.
“Mae yna nifer o faterion yn wynebu marchnad dai Cymru, fel Llafur ddim hyn adeiladu hanner y cartrefi sydd eu hangen i gadw i fyny â’r galw, felly gadewch i ni sicrhau ein bod ni’n trwsio’r hyn sy’n ei achosi yn hytrach nag ymosod ar symptomau methiant y Llywodraeth Lafur.”