Fe fydd staff prifysgolion Cymru’n cynnal rali ger y Senedd fory (dydd Mercher, Tachwedd 30) wrth i’w streic barhau.
Byddan nhw’n streicio unwaith eto dros gyflogau, amodau gwaith a phensiynau.
Bydd y streic yn dechrau yn ystod y bore, ac yn parhau drwy’r dydd wrth i’r staff deithio i’r Senedd ar gyfer rali fydd yn cychwyn am 12.30yp.
Bydd hyn yn cyd-daro ag awr ginio’r Senedd, ac mae Aelodau o’r Senedd yn cael eu gwahodd i glywed pryderon gweithwyr.
Ymhlith y siaradwyr fydd cynrychiolwyr staff a myfyrwyr prifysgolion Cymru, Cyngor Undebau Llafur Caerdydd, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu a Choleg Brenhinol y Nyrsys.
Maen nhw’n dadlau bod prifysgolion “yn rhan hanfodol o wead y gymdeithas yng Nghymru a’i heconomi”.
Yn ôl llefarydd ar ran undeb UCU, sef undeb y gweithwyr prifysgolion a cholegau, gwraidd yr anghydfod yw troi addysg yn faes masnachol, sydd wedi “arwain at ddewisiadau gan uwch reolwyr prifysgolion sy’n blaenoriaethu buddsoddiadau ariannol dros staff”.
“Y dewis i wario ar raglenni adeiladu sy’n llawn risgiau,” meddai.
“Y dewis i ddefnyddio gwarged sydd wedi’i chreu gan staff ar gampysau ffôl yn Llundain.
“Mae uwch reolwyr prifysgolion sy’n cael eu talu’n ormodol wedi methu â chyflwyno’r ddadl dros atebion fyddai’n cefnogi’r sector, fel ei fod yn cael ei adael i staff gyffredin – sydd ar streic a heb eu talu – i fynd i’w wneud e.”