Mae ystadegau Cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad yn nifer y bobol sy’n ystyried eu hunain yn Gymry yn unig.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 55.2% o bobol yn ystyried eu hunain yn Gymry, i lawr o 57.5% yn 2011.

Dim ond 18.5% o bobol sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn unig, ond mae’r ffigwr i fyny ryw ychydig o 16.9% ddegawd yn ôl.

Ac mae cynnydd bach hefyd o 1% yn nifer y bobol sy’n arddel y ddau genedligrwydd – i fyny o 7.1% yn 2011 i 8.1% yn 2021.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, trefn y boscys i’w ticio sy’n gyfrifol am ddylanwadu ar ddewisiadau pobol wrth nodi eu cenedligrwydd – Cymro/Cymraes oedd ar y brig.

Llai o Gristnogion

Mae canlyniadau’r Cyfrifiad hefyd yn dangos bod llai na hanner poblogaeth Cymru a Lloegr gyda’i gilydd yn Gristnogion am y tro cyntaf erioed.

46.2% o bobol sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion erbyn hyn, sy’n cyfateb i oddeutu 27.5m o bobol – i lawr o 33.3m (59.2%) yn 2011.

Roedd cynnydd o 12% yn nifer y bobol sy’n dweud nad ydyn nhw’n grefyddol, ac roedd cynnydd o 1.2m yn nifer y Mwslimiaid.

Caiff y Cyfrifiad ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob deng mlynedd, ac mae’n rhoi darlun o’r gymdeithas yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r canlyniadau’n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch cynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.