Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n dweud bod yna ddiffyg uchelgais i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Trafnidiaeth Cymru wedi ad-dalu £976,660 i deithwyr am oedi.

Mae’r ffigurau’n cwmpasu deg mis cynta’r flwyddyn, a dim ond yn cynnwys y rhai sydd wedi gwneud cais am ad-daliad.

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y blaid, dydy’r ffigurau ddim yn dangos bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i gynnig gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mwy dibynadwy, fel roedden nhw’n addo ei wneud.

“Fe all fod miloedd yn rhagor sydd wedi cael yr un anghyfleustra ond sydd heb hawlio [ad-daliad],” meddai.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddweud wrth drethdalwyr faint o arian sydd wedi cael ei neilltuo i ad-dalu taliadau am oedi, a phryd maen nhw’n credu y bydd hyn dan reolaeth ganddyn nhw.

“Mae gweinidogion bellach yn gyfrifol yn uniongyrchol am y gwasanaeth mae cymudwyr a thwristiaid yn ei gael ar ein rheilffordd ond hyd yn hyn, maen nhw fel pe baen nhw’n cymryd agwedd anuniongyrchol.

“Mae angen gwasanaeth dibynadwy ar gymudwyr a defnyddwyr rheilffordd os ydyn ni am demtio pobol allan o’u ceir.

“Er lles y blaned, mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod yr holl wasanaethau’n rhedeg unwaith eto, a bod y trenau’n cyrraedd yn brydlon.

“Os yw Llafur eisiau cyflwyno gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd, y peth lleiaf mae angen iddyn nhw ei wneud yw sicrhau bod gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gweithio’n dda.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ymrwymo i gyflwyno system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gweithio i bob cymuned, i bob oed, ac i’r hinsawdd.

“Dyna pam ein bod ni eisiau gweld prisiau gostyngedig iawn yn cael eu cyflwyno ar hyd linellau cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno yn yr Almaen a Sbaen, yn ogystal â gwasanaethau mwy aml a gwell cysylltiadau ag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus eraill megis bysiau.

“Gyda’r Prif Weinidog fel pe bai’n dangos diffyg uchelgais o ran trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru dros y penwythnos, byddwn yn parhau i fynnu gwell gan Lywodraeth Cymru.”