Mae Prifysgol Bangor wedi penodi’r academydd a’r ffisegydd, yr Athro Syr Robin Williams yn Ganghellor newydd.

Y Canghellor yw pennaeth seremonïol y brifysgol ac un o’i llysgenhadon amlycaf sy’n gweithio gyda’r Is-ganghellor ac uwch swyddogion eraill i hyrwyddo llwyddiannau’r brifysgol, gartref a thramor.

Fe radddiodd yntau o Brifysgol Bangor, ac mae’n eiriolwr cadarn dros natur ddwyieithog y Brifysgol.

“Mae’n anrhydedd enfawr cael gwasanaethu fel Canghellor Prifysgol Bangor,” meddai.

“Mae cael dychwelyd i’r sefydliad lle dechreuais ar fy ngyrfa academaidd yn anrhydedd arbennig ac rwy’n edrych ymlaen at allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol wych hon.”

Mae’r Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, wedi croesawu’r penodiad.

“Mae’n bleser mawr gen i estyn croeso i Syr Robin sydd â hanes rhagorol a nodedig o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac a fydd o gymorth i godi proffil y brifysgol ac i ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol a’n buddiannau yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol,” meddai.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Syr Robin Williams ei eni ar fferm fynydd yn Llanuwchllyn a chafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yna yn y Bala cyn mynd i astudio Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd yn gyntaf gyda BSc cyn mynd ymlaen i wneud PhD.

Mae’n awdurdod ym maes lled-ddargludyddion ac mae ei ymchwil wedi bod yn bwysig yn natblygiad electroneg ddigidol a’r newidiadau pellgyrhaeddol ym maes cyfrifiadura a chyfathrebu.

Bu’n gweithio’n agos gyda diwydiant ledled y byd a datblygodd ddulliau newydd o astudio lled-ddargludyddion ac roedd ymhlith y cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i astudio arwynebau solidau.

Mae’n gyn-aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu.

Bu’n Is-ganghellor Prifysgol Abertawe am naw mlynedd gan ddechrau yn 1994.

Cafodd ei urddo’n farchog yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2019 am wasanaethau i addysg uwch, ymchwil a’r Gymraeg, ac mae wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff polisi a chyrff cyllido yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig ac ar grwpiau cynghori gweinidogol ar ddatblygiad economaidd ac addysg yng Nghymru.

Trwy gydol ei yrfa bu Syr Robin yn gefnogwr brwd i’r iaith Gymraeg ac yn 2010, ar ran Llywodraeth Cymru, bu’n gadeirydd ar fwrdd oedd yn rhoi ystyriaeth i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.

Arweiniodd ei adroddiad at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi trawsnewid y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu drwy’r Gymraeg.

Mae wedi cynghori llywodraethau Cymru a Phrydain yn rheolaidd ar agweddau ar wyddoniaeth ac mae’n gyn-gadeirydd Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru.

Roedd yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi ac yn un o gymrodyr gwreiddiol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Eleni dyfarnwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol iddo am gyfraniad oes i wyddoniaeth.

Cafodd penodiad Syr Robin Williams ei gadarnhau gan Gyngor y Brifysgol yn dilyn proses oedd yn cynnwys staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.

Ei ymrwymiad cyntaf fydd llywyddu seremonïau graddio’r gaeaf ym mis Rhagfyr.

Rôl lysgenhadol yw rôl y Canghellor ac nid yw’n chwarae unrhyw ran uniongyrchol yn y gwaith o redeg y sefydliad.

Syr Robin Williams yw’r trydydd unigolyn ar ddeg i wneud y swydd a bydd y penodiad yn para pum mlynedd.